Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen CThEM yn rhybuddio cwsmeriaid rhag twyllwyr Hunanasesiad
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > CThEM yn rhybuddio cwsmeriaid rhag twyllwyr Hunanasesiad
ArallPobl a lle

CThEM yn rhybuddio cwsmeriaid rhag twyllwyr Hunanasesiad

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 17, 2021 11:03 am
Rhannu
Darllen 5 funud
CThEM yn rhybuddio cwsmeriaid rhag twyllwyr Hunanasesiad
RHANNU

Erthyl Gwadd – Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM)

Wrth i Gyllid a Thollau EM (CThEM) baratoi i anfon e-byst a negeseuon SMS at gwsmeriaid Hunanasesiad, mae’r adran yn eu hatgoffa i fod yn wyliadwrus ar ôl i CThEM gael gwybod am bron i 800,000 o sgamiau sy’n ymwneud â threth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae twyllwyr yn defnyddio Hunanasesiad i geisio dwyn arian neu wybodaeth bersonol gan unigolion di-fai. Dros y flwyddyn ddiwethaf yn unig, mae CThEM wedi cael gwybod am bron i 360,000 o achosion o ad-daliadau treth ffug.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Y dyddiad cau ar gyfer Hunanasesiad yw 31 Ionawr 2022, ac mae’n bosibl y bydd cwsmeriaid yn disgwyl clywed gan CThEM ar yr adeg hon o’r flwyddyn. Bydd mwy na 4 miliwn o e-byst a negeseuon SMS yn cael eu hanfon yr wythnos hon at gwsmeriaid Hunanasesiad, gan eu cyfeirio at arweiniad a chymorth, a’u hannog i feddwl am sut y maent yn bwriadu talu eu bil treth a cheisio cymorth os na allant dalu’r swm llawn erbyn 31 Ionawr.

Fodd bynnag, mae’r adran hefyd yn rhybuddio cwsmeriaid i beidio â chael eu twyllo gan e-byst, galwadau ffôn neu negeseuon testun maleisus, gan feddwl bod y rhain yn ohebiaeth ddilys gan CThEM sy’n cyfeirio at eu Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

e-bost sgam:

HMRC

Meddai Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEM ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid, “Peidiwch byth â gadael i rywun eich rhuthro. Os bydd rhywun yn cysylltu â chi gan ddweud ei fod yn gweithio i CThEM, ei fod am i chi drosglwyddo arian ar frys neu roi gwybodaeth bersonol, byddwch yn wyliadwrus.

“Ni fydd CThEM yn eich ffonio gan fygwth eich arestio ar unrhyw adeg. Dim ond troseddwyr sy’n gwneud hynny.

“Mae sgamiau’n dod ar sawl ffurf. Mae rhai’n bygwth eich arestio ar unwaith am osgoi treth, mae eraill yn cynnig ad-daliad treth. Dylai cysylltiadau fel y rhain wneud i chi feddwl ddwywaith, felly os oes gennych unrhyw amheuaeth a yw’r e-bost, yr alwad ffôn neu’r neges destun yn ddilys, gallwch wirio’r cyngor ‘gwe-rwydo a sgamiau’ ar GOV.UK a chael gwybod sut i roi gwybod i ni amdanynt.”

Mae troseddwyr yn defnyddio negeseuon e-bost, galwadau ffôn a negeseuon testun i geisio twyllo unigolion, ac mae’r negeseuon yn aml yn esgus eu bod yn dod oddi wrth y llywodraeth i wneud iddynt ymddangos yn ddilys. Maent am dwyllo dioddefwyr i drosglwyddo arian neu wybodaeth bersonol neu ariannol.

Gall cwsmeriaid roi gwybod am alwadau ffôn amheus gan ddefnyddio ffurflen ar GOV.UK; gall cwsmeriaid hefyd anfon e-byst amheus sy’n honni eu bod yn dod oddi wrth CThEM i gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk a negeseuon testun i 60599.

Mae gan CThEM dîm penodedig sy’n gweithio ar achosion o seiber-droseddu a throseddu dros y ffôn. Maent yn defnyddio technolegau arloesol i atal cyfathrebu camarweiniol a maleisus rhag cyrraedd cwsmeriaid.

e-bost sgam:

HMRC

Ers 2017, mae’r rheolaethau technegol hyn wedi atal 500 miliwn o negeseuon e-bost rhag cyrraedd cwsmeriaid CThEM.

Yn fwy diweddar, mae rheolaethau newydd wedi atal 90% o’r negeseuon SMS mwyaf twyllodrus rhag cyrraedd y cyhoedd, ac mae rheolaethau wedi’u rhoi ar waith i atal copïo a chamddefnyddio’r rhan fwyaf o rifau llinellau cymorth CThEM.

Mae CThEM hefyd yn atgoffa cwsmeriaid Hunanasesiad i wirio gwefannau a ffurflenni ar-lein ddwywaith cyn eu defnyddio i lenwi eu Ffurflen Dreth 2020/21. Gellir twyllo pobl i ddefnyddio gwefannau camarweiniol sydd wedi’u cynllunio i wneud i unigolion dalu am help i gyflwyno Ffurflenni Treth neu godi tâl arnynt i’w cysylltu â llinellau ffôn CThEM.

Dylai cwsmeriaid sy’n amau a yw gwefan yn ddilys fynd i GOV.UK i gael rhagor o wybodaeth am Hunanasesiad a defnyddio’r Ffurflenni Treth sydd ar gael yn rhad ac am ddim.

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Arweinydd Tîm – Ystadau…allwch chi wneud y swydd hon? Arweinydd Tîm – Ystadau…allwch chi wneud y swydd hon?
Erthygl nesaf Library Car Park Gwaith coed Maes Parcio’r llyfrgell ddydd Sul

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Sam Gardner
Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 8, 2026
Horace outside Wrexham Library
Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam
Fideo Pobl a lle Y cyngor
Hydref 8, 2026
All Saints School Pupils
Aur i Gresffordd – Ysgol yr Holl Saint yn creu hanes yn Wrecsam!
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 7, 2026
Housing Image
Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru
Y cyngor
Hydref 7, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

The Longest Yarn in Wrexham
DigwyddiadauFideoPobl a lle

Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth

Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Pobl a lle

Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig

Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English