Mae Diwrnod Chwarae 2019 yma!
Fel rhan o ddigwyddiadau dathlu chwarae, a phwysigrwydd sicrhau bod gan blant le i chwarae, bydd arddangosfa newydd Tŷ Pawb – GWAITH-CHWARAE – yn gosod maes chwarae antur yn y galeri.
Wedi’i ddylunio gan arbenigwyr chwarae, bydd yr arddangosfa – a fydd yn cael ei gynnal rhwng 10 Awst a 27 Hydref – yn amlygu’r cyfraniad y mae chwarae yn ei wneud i Wrecsam.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Ar ddechau mis Gorffennaf, lansiwyd apêl am nawdd i gyflogi gweithwyr chwarae a all oruchwylio’r arddangosfa.
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod cwmni lleol, sydd wedi’u lleoli hanner milltir o safleoedd chwarae Wrecsam a gydnabyddir yn rhyngwladol, wedi cynnig noddi’r arddangosfa.
Adam Netting, Tŷ Pawb; Jo Marsh, Tŷ Pawb; Paul Nicholls, Grosvenor Aptec; Ben Tawil, Ludicology; Norma Nicholls, Grosvenor Aptec; a Colin Powell, Y Fenter.
Grosvenor Aptec
Mae Grosvenor Aptec, cwmni sydd wedi’i leoli ar Ystâd Ddiwydiannol Whitegate, Wrecsam, wedi cytuno i noddi’r arddangosfa.
Mae’r cwmni’n darparu ac yn gosod tanau electronig a systemau diogelwch, ynghyd â dylunio ac adeiladu drysau a ffenestri diogel ar gyfer tai cymdeithasol o amgylch y DU.
Mae gan berchnogion y cwmni gysylltiad personol i’r Fenter ym Mharc y Frenhines – hanner milltir o leoliad y cwmni.
Dywedodd Paul a Norma Nicholls, sefydlwyr Grosvenor Aptec: “Rydym yn falch iawn ein bod yn cefnogi arddangosfa Gwaith-Chwarae yn Nhŷ Pawb.
“Mae chwarae yn rhan hollbwysig i ddatblygiad dysgu yn ystod plentyndod, ac mae’n golygu llawer i’r cwmni allu cefnogi prosiect sy’n amlygu pwysigrwydd meysydd chwarae antur ym Mharc Caia a Phlas Madog.
“Mae’n hollbwysig, o fewn cwmni amlddisgyblaethol fel Grosvenor, bod hyfforddiant gydol oes ac addysg yn cael ei ymgorffori i ddiwylliant y cwmni.”
Magwyd y sefydlwyr Paul a Norma yn ardal Parc Caia Wrecsam, sef lleoliad y cwmni erbyn hyn.
Bydd y nawdd gan Grosvenor Aptec yn caniatáu sesiynau chwarae creadigol o fewn y galeri, lle bydd cyfle i blant gymryd rhan mewn gweithgareddau adeiladu ac ymestyn gosodiad y maes chwarae.
Byddant yn cael cyfle i ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau, gan gynnwys pren, tecstilau, paent, cardfwrdd a deunyddiau trwsio, gan gynnwys tâp Duct, a thaciau pren, i greu ac ailddyfeisio’r amgylchedd chwarae yn y galeri.
“Yn ddiolchgar iawn”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r gefnogaeth mae Grosvenor Aptec yn ei ddarparu i’r prosiect cyffrous hwn.
“Bydd cyfraniad y cwmni’n gwella cyfranogiad plant a phobl ifanc yn sylweddol, ac rydym yn falch iawn bod cwmni lleol eisiau rhoi’n ôl i’r gymuned yn y modd hwn.”
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION