Mae Little Gems a Little Treasures yn Ysgol Gynradd Victoria wedi cael gwobr wych gan Lywodraeth Cymru.
Mae eu hymrwymiad i sicrhau iechyd eu rhai bach – gan gynnwys maetheg, iechyd y geg, gweithgarwch corfforol, chwarae, iechyd meddyliol ac emosiynol, lles a pherthnasoedd – wedi ennill gwobr Cynllun Iechyd a Chynaliadwyedd Cyn Ysgol iddynt.
Maent hefyd wedi ennill gwobr Tiny Tums i gydnabod y bwyd y maen nhw’n ei baratoi a’i weini yn ogystal â’r Wobr Arian ar gyfer Cynllun Brwsio Dannedd Cynllun Gwên. Mae ganddynt fan awyr agored gwych i blant chwarae a dysgu yn ogystal â safonau uchel o ran diogelwch a hylendid.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Mae’r Cynllun Lleoliadau Cyn-Ysgol Iach a Chynaliadwy yn gweithredu ar draws Cymru ac mae’n cael ei reoli gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i gefnogi yn lleol gan Dîm Ysgolion Iach Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Dywedodd Nerys Bennion, Swyddog Lleoliadau Cyn-Ysgol Iach Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, “Mae Little Treasures a Little Gems wedi dangos bod iechyd a lles cyffredinol plant a staff yn flaenllaw iawn yn y lleoliad. Mae amgylchedd y lleoliad yn hyfryd y tu mewn a’r tu allan. Maent yn cofleidio pob menter sy’n gallu helpu i ddylanwadu ar arfer yn y lleoliad a gwneud y profiad i staff a phlant yn un arbennig iawn. Rwy’n siŵr y byddant yn parhau i hyrwyddo amgylchedd iach a hapus ar gyfer y plant a fydd yn derbyn eu gofal yn y dyfodol.”
Dywedodd Janet Lloyd, goruchwyliwr y lleoliad; “Rydym wrth ein bodd o fod wedi cyflawni’r wobr a bydd iechyd a lles ein plant i gyd yn parhau i gael ei gynnwys drwy ein harfer.”
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB