Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyfarwyddwr Cais Dinas Diwylliant wedi’i benodi gan yr Ymddiriedolaeth #Wrecsam2029
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cyfarwyddwr Cais Dinas Diwylliant wedi’i benodi gan yr Ymddiriedolaeth #Wrecsam2029
Pobl a lle

Cyfarwyddwr Cais Dinas Diwylliant wedi’i benodi gan yr Ymddiriedolaeth #Wrecsam2029

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 24, 2024 11:26 am
Rhannu
Darllen 7 funud
Cais Dinas Diwylliant Wrecsam 2029 - City of Culture bid Wrexham 2029
RHANNU

Cyhoeddi Cyfarwyddwr Cais Diwylliant

Mae ymddiriedolaeth cais Dinas Diwylliant Wrecsam 2029 wedi cyhoeddi eu Cyfarwyddwr Cais Diwylliant a fydd yn arwain ar y cais i ennill teitl Dinas Diwylliant Wrecsam yn 2029.

Llwyfannodd Wrecsam ymgyrch nodedig Dinas Diwylliant y DU 2025, gan ddod tu ôl i Bradford sy’n dal teitl Dinas Diwylliant y DU 2025. Cyhoeddodd Wrecsam yn fuan ar ôl colli ei bwriad i wneud cais am wobr 2029 a fyddai’n golygu y bydd rhaglen blwyddyn o hyd o ddigwyddiadau diwylliannol yn cael ei chynnal yn y Fwrdeistref Sirol.

Ychydig amdan y Cyfarwyddwr Cais newydd

Cyfarwyddwr Cais Dinas Diwylliant wedi'i benodi gan yr Ymddiriedolaeth #Wrecsam2029

Mewn datblygiad cyffrous ar gyfer cais Wrecsam, mae Amanda Davies newydd gael ei phenodi’n Gyfarwyddwr Cais Diwylliant yr Ymddiriedolaeth Gymunedol a Diwylliannol Wrecsam  (WCCT) – elusen annibynnol newydd wedi’i lleoli yn Wrecsam sydd wedi’i sefydlu i arwain ar gyflwyno cais Wrecsam i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU 2029.

Bu gan Amanda sawl rôl yng Nghyngor Wrecsam ers 2001, i gyd mewn perthynas â’r economi ymwelwyr a chysylltiadau busnes. Bu’n arwain yr oriel arobryn ryngwladol, Tŷ Pawb, yn ymwneud â’r holl ddigwyddiadau mawr yn y Sir ac roedd yn gyfrifol am bob agwedd ar reoli a chysylltiadau busnes Canol y Ddinas.

Arweiniodd cymhelliant ac angerdd Amanda gais Dinas Diwylliant Wrecsam i’r 4 olaf yn ystod cystadleuaeth 2025, ac mae ei phrofiad o’r cais diwethaf wedi rhoi cipolwg iddi ar yr hyn sydd ei angen i sicrhau’r teitl i Wrecsam.

Wrth sôn am ei phenodiad llwyddiannus, dywedodd Amanda “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy mhenodi’n Gyfarwyddwr Cais Diwylliant WCCT.

“Rwy’n angerddol am ddyfodol Wrecsam ac yn credu y gallai proses Dinas Diwylliant y DU drawsnewid ein sir a dangos i’r byd yr hyn sydd gan Wrecsam i’w gynnig.

“Does gen i ddim amheuaeth bod datblygu’r ymddiriedolaeth yn hanfodol wrth ddatblygu’r rhaglen ddiwylliannol ar draws Wrecsam, gan arddangos y sir nid yn unig yn genedlaethol ond yn rhyngwladol.

“Mae gen i gred gref yng ngrym y celfyddydau a diwylliant i greu effaith ehangach ac adeiladu hyder ac uchelgais mewn cymunedau, ac rwy’n credu, o brofiad, sut y gall y cais diwylliant ysgogi llawer o sectorau a phleidiau gwleidyddol i ddod at ei gilydd at ddiben cyffredin.

“Rwy’n wirioneddol gredu bod Wrecsam yn haeddu ac y bydd yn ennill Cais Dinas Diwylliant y DU 2029 ac rwy’n edrych ymlaen at arwain y tîm wrth symud ymlaen.”

Cyfarwyddwr Cais Dinas Diwylliant wedi'i benodi gan yr Ymddiriedolaeth #Wrecsam2029
Cyfarwyddwr Cais Dinas Diwylliant Amanda Davies yng nghanol y digwyddiadau wrth i orymdaith dyrchafiad CPD Wrecsam mynd o amgylch y ddinas

Dywedodd Cadeirydd Ymddiriedolwyr WCCT, Joanna Knight: “Mae sgiliau a phrofiad Amanda yn cyd-fynd â’r rôl hon yn berffaith ac mae ganddi’r cymhelliant, yr angerdd a’r profiad i gyflawni a sicrhau’r wobr i Wrecsam.

“Rwy’n hyderus mai Amanda yw’r person iawn i arwain yr Ymddiriedolaeth i gyflawni ein gweledigaeth. Mae WCCT wedi ymrwymo i gefnogi a datblygu seilwaith diwylliannol a chreadigol Wrecsam yn y tymor hir, gan annog buddsoddiad mewn creadigrwydd a diwylliant a fydd o fudd i bobl Wrecsam ac yn adeiladu proffil Wrecsam ar y llwyfan cenedlaethol a rhyngwladol.”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, gyda chyfrifoldeb am Ddinas Diwylliant, “Hoffwn estyn fy llongyfarchiadau gwresog i Amanda Davies ar sicrhau rôl Cyfarwyddwr y Cais Diwylliant. “Mae angerdd ac ymroddiad Amanda i’n Sir yn ddiwyro, ac mae gennyf hyder llawn yn ei gallu i arwain cais Wrecsam ar gyfer Dinas Diwylliant y DU 2029.

“Mae hwn yn gyfle gwych i Wrecsam arddangos ein treftadaeth ddiwylliannol unigryw a’n cymuned fywiog, gydag Amanda wrth y llyw, rwy’n hyderus y gallwn gyflawni ein nod a dod â’r teitl mawreddog hwn adref.”

Beth yw Dinas Diwylliant Y DU?

Mae Dinas Diwylliant y DU yn gystadleuaeth sy’n cael ei rhedeg gan DCMS Llywodraeth y DU – Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon. Rhoddir dynodiad ‘Dinas Diwylliant’ i ddinas yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o un flwyddyn galendr, pan fydd y cynigydd llwyddiannus yn cynnal dathliadau diwylliannol trwy adfywio dan arweiniad diwylliant am y flwyddyn.

Mae cais Wrecsam ar gyfer Dinas Diwylliant 2029 yn cwmpasu’r sir gyfan, nid canol y ddinas yn unig, a byddai ennill y gystadleuaeth yn gyfle unwaith mewn oes ar gyfer newid trawsnewidiol, gan ddod â buddsoddiad, swyddi, balchder a chynulleidfa ryngwladol i Wrecsam yn ystod blwyddyn o ddiwylliant yn 2029 a thu hwnt. Cynhaliodd Coventry dros 700 o ddigwyddiadau yn ystod eu blwyddyn o ddiwylliant yn 2021 a derbyniodd fuddsoddiad i’r swm o tua £230m. Cyhoeddir Dinas Diwylliant newydd y DU bob 4 blynedd, Bradford fydd yn cynnal y teitl mawreddog hwn yn 2025.

Bydd seilwaith ffisegol a digidol yn cael ei wella o ganlyniad i ddatblygu’r rhanbarth trwy ddiwylliant, gyda Wrecsam a’r ardaloedd cyfagos yn gweld hwb pellach mewn twristiaeth o ganlyniad. Bydd bod yn westeion Dinas Diwylliant y DU 2029 yn codi ein proffil rhyngwladol a’n huchelgeisiau diwylliannol ymhellach.

Mae arweinwyr diwylliannol a chymunedol o ardal Wrecsam a ledled Cymru yn eistedd ar Fwrdd Ymddiriedolwyr WCCT i arwain gweledigaeth yr elusennau i feithrin potensial creadigol Wrecsam a chyflawni ei chenhadaeth i bweru ecosystem ddiwylliannol Wrecsam drwy gydlynu, cysylltu, hyrwyddo a buddsoddi yn bobl unigryw, amrywiol Wrecsam.

Rhagwelir y bydd y broses ymgeisio ar gyfer y gystadleuaeth yn agor yn ddiweddarach eleni, a bydd Wrecsam yn barod i ddangos pam ein bod yn enillwyr teilwng!

Eisiau cymryd rhan? Cysylltwch â’r tîm heddiw drwy e-bost ar cyswllt@wrecsam2029.cymru.

Rhannu
Erthygl flaenorol horse Safonau Masnach yn rhybuddio ynghylch masnachu mewn ceffylau ar-lein
Erthygl nesaf Ydych chi’n derbyn ein rhybuddion e-bost yn eich atgoffa am eich bin? Ydych chi’n derbyn ein negeseuon i’ch atgoffa am eich bin? Mae nifer o resymau pam y dylech wneud…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English