Cyhoeddi Cyfarwyddwr Cais Diwylliant
Mae ymddiriedolaeth cais Dinas Diwylliant Wrecsam 2029 wedi cyhoeddi eu Cyfarwyddwr Cais Diwylliant a fydd yn arwain ar y cais i ennill teitl Dinas Diwylliant Wrecsam yn 2029.
Llwyfannodd Wrecsam ymgyrch nodedig Dinas Diwylliant y DU 2025, gan ddod tu ôl i Bradford sy’n dal teitl Dinas Diwylliant y DU 2025. Cyhoeddodd Wrecsam yn fuan ar ôl colli ei bwriad i wneud cais am wobr 2029 a fyddai’n golygu y bydd rhaglen blwyddyn o hyd o ddigwyddiadau diwylliannol yn cael ei chynnal yn y Fwrdeistref Sirol.
Ychydig amdan y Cyfarwyddwr Cais newydd
Mewn datblygiad cyffrous ar gyfer cais Wrecsam, mae Amanda Davies newydd gael ei phenodi’n Gyfarwyddwr Cais Diwylliant yr Ymddiriedolaeth Gymunedol a Diwylliannol Wrecsam (WCCT) – elusen annibynnol newydd wedi’i lleoli yn Wrecsam sydd wedi’i sefydlu i arwain ar gyflwyno cais Wrecsam i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU 2029.
Bu gan Amanda sawl rôl yng Nghyngor Wrecsam ers 2001, i gyd mewn perthynas â’r economi ymwelwyr a chysylltiadau busnes. Bu’n arwain yr oriel arobryn ryngwladol, Tŷ Pawb, yn ymwneud â’r holl ddigwyddiadau mawr yn y Sir ac roedd yn gyfrifol am bob agwedd ar reoli a chysylltiadau busnes Canol y Ddinas.
Arweiniodd cymhelliant ac angerdd Amanda gais Dinas Diwylliant Wrecsam i’r 4 olaf yn ystod cystadleuaeth 2025, ac mae ei phrofiad o’r cais diwethaf wedi rhoi cipolwg iddi ar yr hyn sydd ei angen i sicrhau’r teitl i Wrecsam.
Wrth sôn am ei phenodiad llwyddiannus, dywedodd Amanda “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy mhenodi’n Gyfarwyddwr Cais Diwylliant WCCT.
“Rwy’n angerddol am ddyfodol Wrecsam ac yn credu y gallai proses Dinas Diwylliant y DU drawsnewid ein sir a dangos i’r byd yr hyn sydd gan Wrecsam i’w gynnig.
“Does gen i ddim amheuaeth bod datblygu’r ymddiriedolaeth yn hanfodol wrth ddatblygu’r rhaglen ddiwylliannol ar draws Wrecsam, gan arddangos y sir nid yn unig yn genedlaethol ond yn rhyngwladol.
“Mae gen i gred gref yng ngrym y celfyddydau a diwylliant i greu effaith ehangach ac adeiladu hyder ac uchelgais mewn cymunedau, ac rwy’n credu, o brofiad, sut y gall y cais diwylliant ysgogi llawer o sectorau a phleidiau gwleidyddol i ddod at ei gilydd at ddiben cyffredin.
“Rwy’n wirioneddol gredu bod Wrecsam yn haeddu ac y bydd yn ennill Cais Dinas Diwylliant y DU 2029 ac rwy’n edrych ymlaen at arwain y tîm wrth symud ymlaen.”
Dywedodd Cadeirydd Ymddiriedolwyr WCCT, Joanna Knight: “Mae sgiliau a phrofiad Amanda yn cyd-fynd â’r rôl hon yn berffaith ac mae ganddi’r cymhelliant, yr angerdd a’r profiad i gyflawni a sicrhau’r wobr i Wrecsam.
“Rwy’n hyderus mai Amanda yw’r person iawn i arwain yr Ymddiriedolaeth i gyflawni ein gweledigaeth. Mae WCCT wedi ymrwymo i gefnogi a datblygu seilwaith diwylliannol a chreadigol Wrecsam yn y tymor hir, gan annog buddsoddiad mewn creadigrwydd a diwylliant a fydd o fudd i bobl Wrecsam ac yn adeiladu proffil Wrecsam ar y llwyfan cenedlaethol a rhyngwladol.”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, gyda chyfrifoldeb am Ddinas Diwylliant, “Hoffwn estyn fy llongyfarchiadau gwresog i Amanda Davies ar sicrhau rôl Cyfarwyddwr y Cais Diwylliant. “Mae angerdd ac ymroddiad Amanda i’n Sir yn ddiwyro, ac mae gennyf hyder llawn yn ei gallu i arwain cais Wrecsam ar gyfer Dinas Diwylliant y DU 2029.
“Mae hwn yn gyfle gwych i Wrecsam arddangos ein treftadaeth ddiwylliannol unigryw a’n cymuned fywiog, gydag Amanda wrth y llyw, rwy’n hyderus y gallwn gyflawni ein nod a dod â’r teitl mawreddog hwn adref.”
Beth yw Dinas Diwylliant Y DU?
Mae Dinas Diwylliant y DU yn gystadleuaeth sy’n cael ei rhedeg gan DCMS Llywodraeth y DU – Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon. Rhoddir dynodiad ‘Dinas Diwylliant’ i ddinas yn y Deyrnas Unedig am gyfnod o un flwyddyn galendr, pan fydd y cynigydd llwyddiannus yn cynnal dathliadau diwylliannol trwy adfywio dan arweiniad diwylliant am y flwyddyn.
Mae cais Wrecsam ar gyfer Dinas Diwylliant 2029 yn cwmpasu’r sir gyfan, nid canol y ddinas yn unig, a byddai ennill y gystadleuaeth yn gyfle unwaith mewn oes ar gyfer newid trawsnewidiol, gan ddod â buddsoddiad, swyddi, balchder a chynulleidfa ryngwladol i Wrecsam yn ystod blwyddyn o ddiwylliant yn 2029 a thu hwnt. Cynhaliodd Coventry dros 700 o ddigwyddiadau yn ystod eu blwyddyn o ddiwylliant yn 2021 a derbyniodd fuddsoddiad i’r swm o tua £230m. Cyhoeddir Dinas Diwylliant newydd y DU bob 4 blynedd, Bradford fydd yn cynnal y teitl mawreddog hwn yn 2025.
Bydd seilwaith ffisegol a digidol yn cael ei wella o ganlyniad i ddatblygu’r rhanbarth trwy ddiwylliant, gyda Wrecsam a’r ardaloedd cyfagos yn gweld hwb pellach mewn twristiaeth o ganlyniad. Bydd bod yn westeion Dinas Diwylliant y DU 2029 yn codi ein proffil rhyngwladol a’n huchelgeisiau diwylliannol ymhellach.
Mae arweinwyr diwylliannol a chymunedol o ardal Wrecsam a ledled Cymru yn eistedd ar Fwrdd Ymddiriedolwyr WCCT i arwain gweledigaeth yr elusennau i feithrin potensial creadigol Wrecsam a chyflawni ei chenhadaeth i bweru ecosystem ddiwylliannol Wrecsam drwy gydlynu, cysylltu, hyrwyddo a buddsoddi yn bobl unigryw, amrywiol Wrecsam.
Rhagwelir y bydd y broses ymgeisio ar gyfer y gystadleuaeth yn agor yn ddiweddarach eleni, a bydd Wrecsam yn barod i ddangos pam ein bod yn enillwyr teilwng!
Eisiau cymryd rhan? Cysylltwch â’r tîm heddiw drwy e-bost ar cyswllt@wrecsam2029.cymru.