Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyfle olaf ar gyfer y Gwobrau Chwaraeon – peidiwch â cholli allan!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cyfle olaf ar gyfer y Gwobrau Chwaraeon – peidiwch â cholli allan!
Pobl a lleY cyngor

Cyfle olaf ar gyfer y Gwobrau Chwaraeon – peidiwch â cholli allan!

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 7, 2017 12:22 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Cyfle olaf ar gyfer y Gwobrau Chwaraeon – peidiwch â cholli allan!
RHANNU

Mae ardal Wrecsam wedi cynhyrchu Olympiaid a Pharalympiaid o’r radd flaenaf – ac mae’r rhagoriaeth hynny mewn chwaraeon yn tarddu o athletwyr cenedlaethol ac yn treiddio i lawr at y lefelau proffesiynol ac amatur.

Mae gennym ni luoedd o grwpiau chwaraeon cymunedol lle mae’r ysbryd hwnnw’n cael ei feithrin, a’i gefnogi gan fyddin o wirfoddolwyr, hyfforddwyr a noddwyr – yn cwmpasu chwaraeon megis pêl-droed i ffensio a badminton i baffio.

Heb sôn am rai o’r athletwyr a’r campwyr ymroddedig sy’n cymryd rhan.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

O ystyried yr uchod, mae Cyngor Wrecsam yn cynnal Gwobrau Chwaraeon blynyddol, i ddathlu cyflawniadau sêr chwaraeon disglair sydd wedi mynd tu hwnt yn eu gwaith caled dros grwpiau chwaraeon ac athletau cymunedol.

Bydd Gwobrau Chwaraeon Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a gefnogir gan Wrecsam Egnïol, yn cael ei gynnal ddydd Gwener, 23 Chwefror, 2018.

Rydym eisoes wedi apelio am enwebiadau ((LINK BACK TO EARLIER ARTICLE)) – ond dyddiad cau’r enwebiadau yw 15 Rhagfyr, ac mae angen gymaint o bobl â phosib arnom i gynnig enwau eu harwyr chwaraeon.

Categorïau

Dyma’r categorïau:

  • Personoliaeth Chwaraeon Iau’r Flwyddyn
  • Personoliaeth Chwaraeon Iau y Flwyddyn
  • Gwobr Gwasanaeth i Chwaraeon
  • Hyfforddwr y Flwyddyn
  • Personoliaeth Chwaraeon Anabl y Flwyddyn
  • Gwirfoddolwr y Flwyddyn
  • Sefydliad y Flwyddyn
  • Gwobr Cyflawniad mewn Iechyd (Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff)

Dywedodd y Cynghorydd Paul Rogers, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Ieuenctid a Gwrth Dlodi, sydd â chyfrifoldeb am Hamdden: “Dim ond ychydig ddiwrnodau sydd ar ôl i bobl gael enwebu eu harwr chwaraeon lleol ar gyfer y Gwobrau Chwaraeon.

Rydym wedi derbyn sawl enwebiad yn barod, ond mi fyddai’n siomedig petai rhai allan yno sy’n haeddu cydnabyddiaeth yn colli allan.

“Os ydach chi’n adnabod rhywun sydd wedi gweithio’n galed i gadw tîm chwaraeon i’r safon uchaf, treulio oriau yn hyfforddi eu hunain neu eraill, wedi chwalu rhwystrau er mwyn cyrraedd eu gorau, rhowch eu henwau ymlaen os gwelwch yn dda – mae digon o bobl allan yno sy’n haeddu cydnabyddiaeth ac nid ydym eisiau eu methu!”

I enwebu, anfonwch neges e-bost i sportsawards@wrexham.gov.uk i gael ffurflen enwebu neu ewch ar-lein i http://www.wrexham.gov.uk/welsh/leisure_tourism_w/sports_development_w/news/awards_nominations.htm

Cwblhewch ein holiadur, a sicrhewch eich bod yn dweud eich dweud ar yr arbedion i gyllid arfaethedig.

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Awydd cymryd rhan yn Nydd Llun Pawb? Awydd cymryd rhan yn Nydd Llun Pawb?
Erthygl nesaf Marchnad Fictoraidd yn Lwyddiant Ysgubol Marchnad Fictoraidd yn Lwyddiant Ysgubol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

sign for site
Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol
Y cyngor
Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws

Medi 21, 2026
Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Tennis o'r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref
DigwyddiadauPobl a lle

Tennis o’r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref

Medi 18, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English