Council Plan

Ddydd Mawrth (08.12.20) bydd gofyn i’r Bwrdd Gweithredol argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo cynllun arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2020-23.

Mae’r cynllun yn nodi chwe maes blaenoriaeth i ganolbwyntio arnyn nhw:

  • Datblygu’r economi
  • Sicrhau bod pawb yn ddiogel
  • Sicrhau Cyngor modern a chryf
  • Gwella’r amgylchedd
  • Gwella addysg uwchradd
  • Hyrwyddo iechyd a lles da

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

Bydd gan bob maes blaenoriaeth ei fwrdd ei hun i symud pethau yn eu blaenau ac i wneud yn siŵr ein bod ni’n cyflawni’r amcanion, a bydd y Bwrdd Gweithredol yn derbyn diweddariadau rheolaidd ar y cynnydd.

Mae gan y cynllun weledigaeth glir o’r hyn y mae Wrecsam yn ceisio ei ddarparu i’r dyfodol:

“…..cefnogi’r bobl sy’n byw yma i gyrraedd eu llawn botensial, i lwyddo a chyrraedd safon uchel o les. Byddwn yn arweinydd cymunedol cryf a chynhwysol i helpu i wneud hyn.”

Mae’r cynllun hefyd yn cydnabod ein bod ni’n ailymweld â rhai blaenoriaethau oherwydd y pandemig byd-eang, ond mae’r holl feysydd yn berthnasol ac yn mynd i helpu i fynd â Wrecsam i 2023.Cafodd y meysydd hyn eu nodi yn gyntaf yng Nghynllun 2019-22 ond maent wedi’u datblygu ers hynny.

Os yw’r Bwrdd Gweithredol yn cymeradwyo’r Cynllun ddydd Mawrth bydd y Cyngor Llawn yn ei ystyried fis Rhagfyr.

Mae’r ymgynghoriad ynghylch y cynllun wedi’i gynnal ac fe allwch chi weld y canlyniadau yma: http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/DMart.aspx

Bydd Arweinydd y Cyngor yn cyflwyno’r adroddiad ddydd Mawrth 8 Rhagfyr. Byddwch yn gallu gwylio’r cyfarfod yn fyw ar ein system weddarlledu o 10am. https://wrexham.public-i.tv/core/portal/home

Mae’r adroddiad llawn ar gael yma

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

Lawrlwythwch yr ap GIG