Mae pawb yn gweithio’n galed i sicrhau fod busnesau’n gallu aros yn ddiogel ar gyfer staff a chwsmeriaid yn ystod yr argyfwng Covid-19.
Mae’n wych gallu dweud bod y rhan fwyaf o fusnesau yn rheoli’r risgiau yn dda, ac yn cadw staff a chwsmeriaid mor ddiogel â phosibl.
Fodd bynnag, mae’n ddyletswydd arnom ni hefyd i ymyrryd pan fo busnes yn rhoi staff, cwsmeriaid a Wrecsam mewn perygl o gael eu rhoi dan fesurau diogelwch Covid-19.
Dyna pam y bu’n rhaid i ni gyflwyno dau Hysbysiad Gwella Eiddo arall i safleoedd trwyddedig yn Wrecsam.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Cyflwynwyd hysbysiadau i’r Railway Inn yn Rhos a Chirk Tavern yn y Waun ar ôl i’r ddau safle fethu â chymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn eu safleoedd.
Mae’r gwelliannau sy’n ofynnol yn y Railway Inn yn ymofyn i’r landlord sicrhau fod cwsmeriaid nad ydynt o’r un aelwyd yn cadw at y mesurau cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr; sicrhau fod cynllun y safle a’r dodrefn yn galluogi cwsmeriaid i gadw pellter o 2 fetr oddi wrth ei gilydd, sicrhau fod cwsmeriaid yn gwisgo gorchuddion wyneb pan nad ydynt yn eistedd wrth eu byrddau, a sicrhau fod asesiad risg ar gael ar y safle i’w archwilio.
Mae’r gwelliannau sy’n ofynnol yn Chirk Tavern yn ymofyn i’r landlord sicrhau fod cwsmeriaid nad ydynt o’r un aelwyd yn cadw at y mesurau cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr; sicrhau fod cwsmeriaid yn gwisgo gorchuddion wyneb pan nad ydynt yn eistedd wrth eu byrddau, a sicrhau fod asesiad risg ar gael ar y safle i’w archwilio.
Gallai methiant i roi’r mesurau hyn ar waith pan fyddant yn ailagor yn dilyn y cyfnod atal byr arwain at gamau pellach gan gynnwys cyflwyno Hysbysiad Cau Eiddo.
“Hanfodol Bwysig”
Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Nid ydym yn hoffi cymryd camau fel hyn, ond mae’n hanfodol bwysig fod busnesau yn chwarae eu rhan i gadw eu staff a’u cwsmeriaid yn ddiogel. Rydym yn hapus i weithio gydag unrhyw fusnes sydd angen ein cyngor mewn perthynas â hyn a byddwn yn parhau i wneud hyn dros gyfnod yr argyfwng Covid-19.
“Dylai’r cyfnod atal byr roi cyfle i fusnesau fyfyrio ar y camau y maent eisoes wedi’u cymryd a rhoi mesurau pellach ar waith er mwyn helpu i gadw Wrecsam yn ddiogel.”
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG