Rydym yn falch o gadarnhau fod achos busnes i atgyweirio’r B5605 Ffordd Newbridge bellach wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Mae hyn yn dilyn arolygon geo-dechnegol cymhleth a dadansoddiad ofalus o’r costau wrth symud ymlaen i sicrhau bod y ffordd gyswllt hanfodol hon yn gallu cael ei defnyddio.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Difrodwyd y ffordd yn ddifrifol ers Storm Christoph y llynedd ac wedi parhau ar gau ers hynny.
Mae’r ffordd yn darparu cysylltiadau ffordd hanfodol rhwng cymunedau Newbridge a Cefn a’r aneddiadau pellach yn y Waun i’r de a Plas Madog/Rhiwabon i’r gogledd. Mae colli’r ffordd hon yn torri cysylltiad gyda’r cymunedau hyn gan achosi trallod ac anghyfleustra i’r trigolion a’r busnesau yn yr ardaloedd hyn.
Dywedodd y Cyng. David A Bithell, Aelod Arweiniol Amgylchedd a Chludiant, “Rwy’n falch iawn fod y gwaith hwn wedi ei gwblhau ac yn erfyn ar Lywodraeth Cymru i edrych yn ffafriol ar yr achos busnes.
“Mae’r cymunedau a effeithiwyd eisoes wedi aros dros 12 mis gan achosi siwrneiau hir ac anghyfleus. Mae’n ddarn hanfodol o isadeiledd yn yr ardal hon ac hefyd yn llwybr gwyro ar gyfer gwaith ar gefnffordd yr A483. Pan fo’r ffordd hon wedi cau rhaid dargyfeirio traffig trwy Langollen – gwyriad o 15 milltir.
“Mae’r Aelod Seneddol a’r Aelod o’r Senedd lleol yn awyddus i weld y gwaith atgyweirio yn cael ei ariannu a’i gwblhau cyn gynted â phosib a hoffwn ddiolch iddynt am eu cefnogaeth.”
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL