Mae myfyrwyr o hyd a lled Wrecsam wedi cael eu gwobrwyo am eu gwaith caled a’u hymrwymiad mewn seremoni Wobrwyo Cyfoethogi arbennig yn Neuadd William Aston.
Mae’r myfyrwyr llwyddiannus wedi cymryd rhan mewn rhaglen Gyfoethogi yn ystod y flwyddyn ysgol gan eu galluogi i ennill cymwysterau ychwanegol i symud ymlaen i fyd gwaith, hyfforddiant neu addysg Ôl-16.
“Ffocws galwedigaethol”
Mae’r Rhaglen Gyfoethogi, sef partneriaeth rhwng pob ysgol uwchradd, Ysgol Arbennig Sant Christopher a cholegau Addysg Bellach lleol, yn agored i fyfyrwyr sydd yn astudio Cyfnod Allweddol 4 ac sydd angen ychydig bach mwy na’r hyn sydd gan y cwricwlwm yr ysgol i’w gynnig. Mae cymryd rhan mewn cyrsiau ymarferol sydd â ffocws galwedigaethol y tu allan i amgylchedd arferol y dosbarth, yn helpu i sicrhau bod myfyrwyr yn parhau i ymgysylltu ag astudio.
Mae myfyrwyr yn teithio o’u hysgol uwchradd i leoliadau amrywiol ar gyfer eu cyrsiau gan gynnwys Coleg Cambria yn Llaneurgain, Bersham Road, Glannau Dyfrdwy, Llysfasi a safle Grove Park. Mae nifer o gyrsiau yn cael eu darparu trwy Ysgol Sant Christopher.
“Heriol a gwerth chweil”
Dywedodd Steve Stockdale, Cydlynydd Cyfoethogi: “Mae yna ddisgyblion a allai elwa o Gyfoethogi ym mhob ysgol, ac ar hyn o bryd rydym yn gweithio i gydlynu gweithgareddau dros 300 o fyfyrwyr i sicrhau y gallant gyflawni mewn maes y mae ganddynt ddiddordeb arbennig ynddo. Mae’n waith heriol a gwerth chweil. Mae myfyrwyr mewn 14 ysgol wedi cymryd rhan eleni ynghyd â 33 o gyrsiau i ddewis ohonynt. Maen nhw gyd wedi gwneud yn dda iawn ac mae wedi bod yn bleser dod i’w hadnabod a gweld sut mae eu cyrsiau wedi sicrhau ei bod yn aros ar y llwybr cywir i adael yr ysgol gydag o leiaf un cymhwyster galwedigaethol perthnasol.
Y gwobrau a gyflwynwyd yn y Seremoni oedd Myfyrwyr Rhagorol y Flwyddyn ac am gyflawni ym maes Adeiladu, Gwallt a Harddwch, Gwasanaethau Cyhoeddus, Cwrs Blasu Galwedigaethol, Gwallt a Harddwch, Gofalu am Anifeiliaid, Cwrs Lefel Mynediad Derwen, Mecaneg Moduron, Manwerthu, Byw yn y Gwyllt, Arlwyo, Drama, Celfyddydau Gweledol, Weldio a Saernïo, Tystysgrifau Mentor, Garddwriaeth ac Amaethyddiaeth, Chwaraeon a Hamdden, Peirianneg, Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Astudiaethau’n Seiliedig ar y Tir.
Cafodd y gwobrau eu cyflwyno gan nifer o westeion arbennig ar y noson gan gynnwys Maer a Maeres Wrecsam y Cynghorydd John a Mrs Ann Pritchard, Ian Lucas AS, Lesley Griffiths AC, Ian Roberts Pennaeth Addysg Wrecsam, y Cynghorydd Bill Baldwin, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant, Graham Edwards Is-gadeirydd Llywodraethwyr Sant Christopher, Maxine Pittaway Pennaeth Ysgol Sant Christopher yn ogystal â nifer o Uwch Staff o’r Ysgolion Uwchradd.
“Amlwg wedi mwynhau eu hamser”
Meddai’r Cynghorydd Bill Baldwin, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Plant: “Roedd hi’n bleser bod yn y seremoni wobrwyo i gwrdd â phobl ifanc sydd yn amlwg wedi mwynhau eu hamser ar y rhaglen Gyfoethogi. Mae’n rhaglen ardderchog ac mae pawb sydd yn ymwneud â hi’n elwa. Da iawn bawb ac rwy’n dymuno’r gorau i’r myfyrwyr at y dyfodol.”
Rhaid diolch yn arbennig i Pizza Express am eu haelioni yn darparu’r gwobrau ar gyfer y digwyddiad.
Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.
DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI