Mae’n siŵr eich bod yn gwybod am benderfyniad Llywodraeth Cymru i ostwng y cyfyngiad cyflymder o’r cyfyngiad cyflymder cenedlaethol i 50mya ar ffordd yr A483(T) rhwng Cyffordd 5 Cyfnewidfa Ffordd yr Wyddgrug a Chyffordd 6 Cyfnewidfa Gresffordd.
Mae’r A483(T) yn un o nifer o ffyrdd ledled y wlad lle bydd cyfyngiadau cyflymder yn cael eu gostwng i helpu i sicrhau bod Cymru yn cydymffurfio â Chyfarwyddeb Ansawdd Aer yr Amgylchedd yr UE.
Bydd y penderfyniad mewn grym erbyn diwedd mis Mehefin a bydd y Cyngor yn gwneud sylwadau i Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r penderfyniad hwn.
Dywedodd y Cyng. David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Er bod pob ymdrech a wneir i ostwng lefelau allyriadau yn ganmoladwy, nid wyf yn credu mai dyma’r amser na’r lle cywir i gyflwyno cyfyngiad cyflymder 50mya ar gymaint o fyr rybudd mewn ardal mor brysur.”
Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.
DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI