Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyfyngiadau ychwanegol i helpu yn y frwydr yn erbyn ‘ail don’ yng ngogledd Cymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Parking
Wrecsam v Nottingham Forest – sut i beidio â chael dirwy parcio
Digwyddiadau Pobl a lle
Diweddariad tywydd 5.01.25
Diweddariad tywydd 5.01.25
Y cyngor
London Euston
Diweddariad: sgyrsiau pellach am wasanaethau rheilffordd uniongyrchol i Euston Llundain
Busnes ac addysg Pobl a lle
Mae rhybudd tywydd melyn am eira a rhew ar waith ar hyn o bryd yn Wrecsam.
Mae rhybudd tywydd melyn am eira a rhew ar waith ar hyn o bryd yn Wrecsam.
Pobl a lle Y cyngor
Parking sign
Mae dwy gêm bêl-droed dros y Nadolig eleni…gwnewch yn siŵr eich bod chi’n parcio a theithio!
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 5-6 Ionawr
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Cyfyngiadau ychwanegol i helpu yn y frwydr yn erbyn ‘ail don’ yng ngogledd Cymru
ArallPobl a lleY cyngor

Cyfyngiadau ychwanegol i helpu yn y frwydr yn erbyn ‘ail don’ yng ngogledd Cymru

Diweddarwyd diwethaf: 2020/09/30 at 2:01 PM
Rhannu
Darllen 6 funud
Wrecsam
RHANNU

Mae pedwar cyngor yng ngogledd Cymru, Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol eraill yn cefnogi cyfyngiadau ychwanegol er mwyn helpu i frwydro Coronafeirws yn y rhanbarth.

O 6pm ddydd Iau ymlaen, bydd cyfyngiadau ychwanegol yn cael eu cyflwyno yn siroedd Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Golygai’r cyfyngiadau na fydd trigolion yn cael teithio allan o’r sir y maent yn byw ynddi heb reswm dilys.

Y gobaith i’r partneriaid yw drwy gymryd y camau hyn yn gynnar gellir arafu’r cynnydd mewn achosion sydd wedi ei weld dros yr wythnos ddiwethaf – gan helpu i ddiogelu pobl leol rhag y feirws, yn ogystal ag amddiffyn busnesau rhag mesurau cloi llymach i’r dyfodol.

Mae gan y ddau gyngor arall yng ngogledd Cymru – sef Ynys Môn a Gwynedd – gyfraddau is o’r Coronafeirws ar hyn o bryd, ond maent yn parhau i gadw llygaid fanwl ar y sefyllfa.

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

Dywed y Cynghorydd Sam Rowlands, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sir Conwy:

“Rydym i gyd yn gwybod bod y ffigyrau’n codi, felly mae cymryd camau cynnar i reoli lledaeniad y firws ac i amddiffyn iechyd pobl yn hanfodol. Trwy gefnogi mesurau ychwanegol nawr, mae gennym well siawns o wyrdroi’r sefyllfa, gan gadw pobl yn ddiogel.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych:

“Mae’n gwneud synnwyr i Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam weithio efo’i gilydd o ystyried y cynnydd mewn achosion. Fodd bynnag, mae’n rwy’n pwysleisio y bydd y cyfyngiadau’n golygu na fydd preswylwyr yn cael teithio’n rhydd rhwng y siroedd dan sylw, oni bai bod ganddyn nhw reswm dilys.”

O 6pm ddydd Iau daw’r cyfyngiadau canlynol i rym:

  • Ni chaniateir i bobl ddod i mewn na gadael y sir y maent yn byw ynddi (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam) heb reswm da, er enghraifft teithio i’r gwaith neu addysg;
  • Am y tro, dim ond tu allan yn yr awyr agored y bydd hawl gan bobl i gwrdd ac eraill nad ydynt yn byw yn yr un tŷ. Ni chaniateir ffurfio na bod yn rhan o gartrefi estynedig (a elwir yn “swigen” hefyd weithiau).

Gofynnir hefyd i breswylwyr gofio cadw at y canllawiau presennol, sy’n cynnwys:

  • Aros gartref os oes gennych symptomau Coronafeirws a threfnu prawf ar unwaith.
  • Gweithio gartref os yn bosib.
  • Osgoi rhannu ceir.
  • Rhaid i’r rhai hŷn na 11 oed wisgo gorchudd wyneb neu fwgwd mewn mannau cyhoeddus dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.
  • Gorchuddiwch eich ceg os ydych yn tisian neu’n pesychu.
  • Cadwch eich dwylo’n lân.
  • Rhaid i fusnesau lletygarwch yng Nghymru gau erbyn 10pm, gyda gwasanaeth bwrdd yn unig. Rhaid i bob siop roi’r gorau i werthu alcohol o 10pm.

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:

“Rydym yn gwybod y bydd llawer o fusnesau yn poeni am gyfyngiadau pellach, ond trwy gymryd y mesurau hyn nawr, rydym yn gobeithio y gallwn eu hamddiffyn rhag yr angen am gyfyngiadau tynnach yn y dyfodol. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth ac i ddwyn pwysau ar Lywodraeth Cymru am gefnogaeth ychwanegol i fusnesau sy’n cael eu heffeithio gan y rheoliadau llymach hyn.”

Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Mae’n gydbwysedd rhwng iechyd pobl a’r economi, ac mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i’w gael yn iawn.

“Bydd y mesurau hyn yn cael eu hadolygu’n gyson wrth i ni geisio rheoli lledaeniad y firws yn siroedd Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.”

Mae manylion llawn am y cyfyngiadau, gan gynnwys cwestiynau cyffredin, ar gael ar llyw.cymru/cyfnod-clo-lleol

Ychwanegodd y Cyng. Pritchard:

“Yn Wrecsam bu i ni weithredu’n fuan wrth roi profion cymunedol mewn lle i ddiogelu preswylwyr pan roedd achosion yn Rowan Foods yn Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam, ac yn Ysbyty Maelor. Gan fod y dadansoddiad a ffigurau gwyddonol yn dangos yn awr bod y feirws yn lledaenu mewn cymunedau ar draws Gogledd Cymru, rydym yn siomedig, ond mae’n well gweithredu’n fuan i ddiogelu preswylwyr a’r economi lleol.

“Rydym i gyd yn ymwybodol bod y feirws yn cipio bywydau, felly rwy’n gofyn eto ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i gadw Wrecsam yn ddiogel.

“Nid yw’r cyfyngiadau yn gyfyngiadau llawn i fusnesau a’r sector lletygarwch – maent yn galluogi busnesau i barhau i weithredu. Drwy weithredu’n fuan rydym yn diogelu bywydau pobl a chefnogi’r economi leol. Os nad ydym yn gweithredu’n awr byddwn yn gweld y nifer o achosion yn cynyddu ac o bosib bydd cyfyngiadau mwy caeth a chyfyngiadau i fusnesau lleol.

“Unwaith eto, diolch i bawb yn Wrecsam am eu cefnogaeth barhaus yn yr amseroedd heriol hyn. Mae’r ffordd y mae pob cymuned yn Wrecsam yn gweithio gyda’i gilydd yn rhywbeth y dylem i gyd fod yn falch ohono.”

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.covid19.nhs.uk/”]Lawrlwythwch yr ap GIG[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ysgol Clywedog’s Eco-Action Taskforce Group Myfyrwyr Wrecsam yn ennill cystadleuaeth newyddiaduraeth amgylcheddol fyd-eang
Erthygl nesaf Social Services Rhannwch eich barn am y Gwasanaethau Cymdeithasol gydag Arolygiaeth Gofal Cymru

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Parking
Wrecsam v Nottingham Forest – sut i beidio â chael dirwy parcio
Digwyddiadau Pobl a lle Ionawr 5, 2026
Diweddariad tywydd 5.01.25
Diweddariad tywydd 5.01.25
Y cyngor Ionawr 5, 2026
London Euston
Diweddariad: sgyrsiau pellach am wasanaethau rheilffordd uniongyrchol i Euston Llundain
Busnes ac addysg Pobl a lle Ionawr 5, 2026
Mae rhybudd tywydd melyn am eira a rhew ar waith ar hyn o bryd yn Wrecsam.
Mae rhybudd tywydd melyn am eira a rhew ar waith ar hyn o bryd yn Wrecsam.
Pobl a lle Y cyngor Ionawr 2, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Parking
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Nottingham Forest – sut i beidio â chael dirwy parcio

Ionawr 5, 2026
Diweddariad tywydd 5.01.25
Y cyngor

Diweddariad tywydd 5.01.25

Ionawr 5, 2026
London Euston
Busnes ac addysgPobl a lle

Diweddariad: sgyrsiau pellach am wasanaethau rheilffordd uniongyrchol i Euston Llundain

Ionawr 5, 2026
Mae rhybudd tywydd melyn am eira a rhew ar waith ar hyn o bryd yn Wrecsam.
Pobl a lleY cyngor

Mae rhybudd tywydd melyn am eira a rhew ar waith ar hyn o bryd yn Wrecsam.

Ionawr 2, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English