Mae tîm Oriel Wrecsam/Tŷ Pawb wedi dewis y chwe artist fydd yn creu cofroddion o Wrecsam.
Bydd agoriad swyddogol canolfan farchnad, celf a chymunedol newydd Tŷ Pawb yn cael ei ddathlu gyda Gorymdaith Dydd Llun Pawb. Wedi ei drefnu gan Focus Wales, bydd yr orymdaith yn cynnwys dehongliad o chwech o straeon poblogaidd Wrecsam.
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Yn dilyn hysbyseb agored, mae’r chwe artist canlynol wedi eu dewis i ddehongli’r straeon:
- Sophia Leadill – Artist amlgyfryngau yn Wrecsam –
http://www.sophialeadillartist.wordpress.com/ - John Merrill – Cerflunydd ger Llangollen –
http://www.johncmerrill.blogspot.com/ - Marcus Orlandi – Artist perfformio o Lundain –
http://www.marcusorlandi.com/ - Nicholas Pankhurst – Cerflunydd o Lundain –
http://www.nicholaspankhurst.com/ - Martha Todd – Crochenydd o Lundain, ond yn wreiddiol o ardal Wrecsam –
http://www.marthatodd.info/ - Bedwyr Williams – Artist perfformio a delweddau symudol o Gaernarfon –
http://www.bedwyrwilliams.com/
Bydd pob artist yn gorfod creu cofrodd yn seiliedig ar chwe stori am Wrecsam. Mae’r straeon ar hyn o bryd yn destun pleidlais, gyda 25 stori i’w dewis o’u plith. I ddarllen bob stori, ac i bleidleisio dros eich hoff un, ewch i: www.owmarchnadybobl.co.uk/dydd-llun-pawb/.
Mae’r bleidlais yn cau ar 25 Tachwedd.
Dywedodd Jo Marsh, Arweinydd Celfyddydau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Roeddem ni wrth ein bodd o weld yr holl geisiadau a gyflwynwyd yn dilyn ein galwad am artistiaid. Roeddem ni’n arbennig o falch o allu dewis nifer o artistiaid lleol ac mae’r rhestr hefyd yn dangos bod pobl o bell wedi cymryd diddordeb yn ein tref.”
Dwedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol am Gymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedau: “Mi fuasai’n annog unrhyw un a diddordeb mewn hanes Wrecsam i bleidleisio am y chwe chofrodd a fu’n ar werth yn Nhŷ Pawb.
“Ysbrydolir y cofroddion gan nifer o gofion o hanes Wrecsam, ac rwy’n sicr bydd gan aelodau’r cyhoedd chofion cynnes ohonynt eu hunain.”
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.
DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU