Heddiw rydym yn rhannu’r newydd fod lleoliad canol y dinas addas wedi’i sicrhau i’n tenantiaid yn y Farchnad Gyffredinol a Chigydd tra rydym yn bwriadu ailwampio’r lleoliadau hyn.
Agorwyd y Farchnad Cigydd yn 1848 a’r Farchnad Gyffredinol yn 1879; mae’r ddau angen gwaith cynnal a chadw, atgyweiriadau a moderneiddio hanfodol.
Mae ein marchnadoedd hanesyddol yn rhan o Wrecsam ac yn cyfrannu at gymeriad a threftadaeth Ganol Dinas Wrecsam. Mae’r gwaith ailwampio yn rhan o gynlluniau Cynllun Treftadaeth Treflun Wrecsam sydd yn edrych i wella a datblygu Ardal Gadwraeth Ganol Dinas Wrecsam.
Ni fydd moderneiddio’r adeiladau rhestredig hyn yn niweidiol i’w statws rhestredig, ond yn darparu buddion sylweddol i’n masnachwyr ac ymwelwyr. Bydd adnewyddu a chynllunio ar gyfer y dyfodol ein marchnadoedd hanesyddol yn atynnu cynulleidfaoedd newydd a chynhyrchu nifer yr ymwelwyr fel cyrchfan Canol Dinas yn eu rhinwedd eu hunain.
Nid oedd yn ymarferol i gadw’r masnachwyr ar y safle wrth i ni ymgymryd y gwaith sylweddol sydd ei angen i wella’r adeiladau hyn i safon i gyflawni eu potensial – felly ceisiwyd gartref dros dro i’n masnachwyr.
Ar ôl edrych ar wahanol opsiynau, sicrhawyd safle a ffefrir yn Sgwâr y Frenhines fel cartref dros dro i’n masnachwyr marchnad. Bydd y lleoliad Canol Dinas sydd o fewn pellter cerdded o’r orsaf fysiau a’r lleoliadau marchnad gyfredol, yn cael eu gosod yn ystod y misoedd nesaf yn barod i groesawu ein masnachwyr y gwanwyn nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio: “Mae nifer o’n masnachwyr ffyddlon wedi bod gyda ni ers peth amser, felly roedd yn bwysig iawn i ni ddod o hyd i’r safle Canol Dinas addas oedd ar gael. Cyn, yn ystod ac ar ôl y symud, byddwn yn edrych ar hyrwyddo’r lleoliad y safle i sicrhau bod cwsmeriaid, hen a newydd, yn ymwybodol o’r lleoliad.
*Ariennir y Cynllun Treftadaeth Treflun Wrecsam gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru – Cronfa Trawsnewid Trefi, a Rhaglen Gyfalaf Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.