Tiles

Llofnododd Dominic White, cyfarwyddwr West Bank Tiles and Bathrooms Limited, ymrwymiad ysgrifenedig ar gais Safonau Masnach.

Aeth Swyddogion Safonau Masnach at Mr White yn dilyn cwynion a wnaed drwy linell gymorth Cyngor ar Bopeth. Yr oedd y cwynion yn ymwneud ag oedi maith wrth gwblhau gwaith, peidio â chwblhau gwaith a phryderon ynglŷn â safon y gwaith a wnaed, talu blaendaliadau sylweddol ac yna oedi hir cyn dechrau’r gwaith, gwaith heb ei orffen, gwaith o safon isel, peidio ag ymateb i bryderon cwsmeriaid, peidio â chadw addewidion a wnaed fel rhan o rwymedigaethau dan gontract a pheidio â rhoi manylion busnes i’r cwsmer neu wybodaeth yr oedd yn rhaid ei rhoi yn ôl y gyfraith i gwsmer cyn ymrwymo i gontract.

Cymorth gyda chostau byw – hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi, lleihewch eich biliau, gofalwch am eich iechyd.

Mewn cyfarfod gyda Swyddogion Safonau Masnach o Wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor, llofnododd Mr White ymrwymiad ysgrifenedig lle’r ymrwymodd i gydymffurfio â chyfreithiau diogelu defnyddwyr perthnasol ar gyfer yr holl waith newydd a wneir, a datrys yr holl faterion sydd heb eu datrys eisoes gyda chwsmeriaid presennol o fewn amser y cytunir arno.

Bydd Safonau Masnach yn parhau i fonitro gweithgarwch masnachu. Y mae unrhyw dystiolaeth bod y busnes yn torri’r ymrwymiad yn debygol o arwain at achos cyfreithiol yn y Llys Sirol i sicrhau gorchymyn llys yn erbyn y busnes.

Dywedodd Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu, “mae’r camau gweithredu hyn ar gyfer diogelu defnyddwyr a sicrhau cystadleuaeth deg rhwng busnesau fel bod pawb yn bodloni eu rhwymedigaethau cyfreithiol i gwsmeriaid. Os oes gan unrhyw ddefnyddiwr gŵyn ynglŷn â hyn neu unrhyw fusnes arall, gallant gysylltu â Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133, lle byddant yn cael cyngor, a bydd manylion y gŵyn yn cael eu trosglwyddo i Safonau Masnach.”

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI