Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd cyllid sylweddol ar gael i wasanaethau bysiau cyhoeddus tan fis Ebrill 2021.
Mae’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, yn croesawu’r cyhoeddiad. Meddai: “Mae hyn yn newyddion da iawn i ddefnyddwyr bysiau yn Wrecsam sy’n dibynnu ar gludiant cyhoeddus i fynd i’r gwaith, ysgol neu goleg.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
“Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi darparu £10 miliwn i wneud gwelliannau yn dilyn cyfyngiadau cychwynnol Covid-19 ond roedd yn amlwg bod angen gwneud mwy i ddarparu’r gwasanaethau arferol. Bu i mi ysgrifennu’n ddiweddar at y Gweinidog yn gofyn am hyn ac felly mae’r cyhoeddiad yn cael croeso mawr gennyf ac mae’n newyddion gwych i weithredwyr bysiau sydd rŵan yn gallu cynnig mwy o wasanaethau.”
Dyma’r hyn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru:
Bydd teithwyr ar draws Cymru yn elwa ar £84.6 miliwn yn ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant bysiau. Bydd y cyllid hwn yn helpu cwmnïau i wynebu heriau’r coronafeirws a chynnal rhagor o wasanaethau.
Mae’r cyllid yn golygu bod cyfanswm o £140 miliwn wedi’i fuddsoddi mewn gwasanaethau bysiau yn ystod y flwyddyn ariannol hon.
Gan fod nifer y bobl sy’n teithio wedi lleihau a chan fod mesurau cadw pellter cymdeithasol wedi’u cyflwyno mae refeniw cwmnïau bysiau wedi lleihau dros y misoedd diwethaf. Er mwyn cefnogi’r diwydiant mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol. Y cam cyntaf oedd cefnogi teithiau hanfodol ond yn nes ymlaen aeth y Llywodraeth ati i gefnogi’r gwaith o gynyddu gwasanaethau wrth i ysgolion a’r economi ehangach ddechrau ailagor.
Cadarnhawyd ym mis Awst y byddai £10 miliwn yn cael ei ddarparu er mwyn helpu i gludo rhagor o bobl i ysgolion, colegau a lleoliadau gwaith. Cyhoeddiad heddiw o ran cyllid yw’r cyhoeddiad mwyaf o’i fath ac mae’n golygu bod cyfanswm o £140 miliwn wedi’i ddarparu.
Mae’r cyllid hefyd yn gam arall tuag at gyflawni cynllunio mwy hirdymor a system integredig yn hytrach na phwyslais ar gyllid brys. Cafodd cytundeb newydd – y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau – ei greu’n ddiweddar er mwyn rheoli cyllid ar gyfer y diwydiant. Mae Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau oll ynghlwm wrth y cynllun sy’n anelu at weddnewid rhwydwaith bysiau Cymru a sicrhau bod anghenion teithwyr yn flaenoriaeth wrth i gyllid gael ei ddyrannu.
Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:
Rydym yn awyddus i sicrhau bod gwasanaethau bysiau yn diwallu anghenion teithwyr, hyd yn oed mewn cyfnod mor anodd. Mae’r ffaith ein bod yn parhau i ddyrannu cyllid yn tystio i’n hymrwymiad i sicrhau bod cymaint â phosibl o wasanaethau’n cael eu cynnal mewn modd diogel.
Bydd y cyllid hwn yn sicrhau rhywfaint o sefydlogrwydd hirdymor a chan fod ansicrwydd o hyd byddwn yn parhau i gydweithio’n agos ag awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau er mwyn darparu gwasanaethau.
Mae gan fysiau swyddogaeth hollbwysig o safbwynt cysylltu cymunedau a helpu pobl deithio i siopau, lleoliadau addysg, lleoliadau gwaith a safleoedd hamdden. Rydym yn parhau’n ymrwymedig i ddarparu’r cymorth angenrheidiol er mwyn sicrhau parhad gwasanaethau effeithlon yn y tymor byr, y tymor canol a’r hirdymor.
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: “Rydym yn deall yr effaith ddifrifol y mae’r pandemig wedi’i chael ar wasanaethau bysiau yng Nghymru. Bydd y cyllid rydym yn ei gyhoeddi heddiw yn helpu i ddiogelu dyfodol gwasanaethau bysiau yng Nghymru ac yn sicrhau y bydd gennym rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus hyfyw ar ôl i’r argyfwng yma ddod i ben.”
Dywedodd John Pockett, Cyfarwyddwr Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru, y corff sy’n cynrychioli gweithredwyr bysiau yng Nghymru: “Mae’r cyllid ychwanegol hwn oddi wrth y Llywodraeth yn rhywbeth sy’n cael croeso mawr gan y diwydiant bysiau. Mae’r diwydiant hwnnw wedi gweld gostyngiad trychinebus yn nifer y teithwyr ac mewn refeniw oherwydd y pandemig ofnadwy hwn. Gan gydweithio a’n partneriaid yn Llywodraeth Cymru ac mewn awdurdodau lleol, mae gweithredwyr bysiau am ddarparu rhagor o wasanaethau i deithwyr wrth i bobl ailgydio mewn gweithgareddau ac wrth i’r economi ailagor. Bydd y cymorth ariannol hwn yn rhoi hwb aruthrol i’r nod hwnnw yn y misoedd sydd i ddod. Mae’n dangos bod y Llywodraeth yn cydnabod pa mor bwysig yw gwasanaethau bysiau i gymunedau lleol ac economi Cymru.”
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION