Wel, mae’r beirniaid wedi bod yn trafod ac maent wedi cyhoeddi enillwyr ar gyfer Calendr Rhyfeddodau Wrecsam 2019. Maen nhw’n lluniau gwych!
Unwaith eto, mae gennym luniau o’r pensaernïaeth a golygfeydd anhygoel sydd i’w canfod yma yn Wrecsam. O ddefaid i Gastell yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Safle Treftadaeth y Byd i’n coed a’n golygfeydd bendigedig.
Roedd gan y beirniaid dasg anodd iawn, ond gobeithio eich bod yn cytuno bod y canlyniadau unwaith eto yn dangos rhai o Ryfeddodau Wrecsam yn barod ar gyfer 2019.
Bydd y Calendr ar werth yn fuan ac fe fyddwn ni’n cyhoeddi manylion am y pris ac o ble y gallwch ei brynu maes o law.
Dywedodd y Maer, y Cynghorydd Andy Williams: “Mae’r Calendr yn edrych yn dda iawn ac mae’n ardderchog gallu atgoffa pawb o’r hyn sy’n unigryw a gwych am Wrecsam. Fe hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at greu’r calendr a llongyfarch yr enillwyr sydd wedi’u rhestru isod. Rwy’n edrych ymlaen at ei weld ar werth yn fuan iawn ac at gyfarfod yr holl enillwyr cyn y Nadolig”.
Ionawr – Rhagfyr
- Pont ac Eglwys Bangor-Is-y-Coed wedi’i dynnu gan Adrian Wright. Darlun hardd o’r bont hyfryd hon sy’n dyddio’n ôl i oddeutu 1660. Credir mai Inigo Jones a adeiladodd y strwythur carreg â phum bwa.
- Olwyn Gresffordd wedi’i dynnu gan Sally Davies. Cadwyd yr olwyn eiconig o hen Bwll Glo Gresffordd i Goffáu Trychineb Gresffordd. Bob blwyddyn cynhelir gwasanaeth ar y safle i gofio’r rhai a gollodd eu bywydau yn y drychineb ofnadwy. Roedd y pedwar beirniad wedi rhoi’r llun hwn yn gyntaf! Bydd llun hwn y prif llun ar flaen y Calendr y hefyd
- Eglwys yr Holl Seintiau yng Ngresffordd wedi’i dynnu gan Steve Harvey. Mae sain y clychau hyn yn eu rhoi ar restr 7 o Ryfeddodau Cymru felly roedd yn rhaid i’r llun fod yn un o’r 13 terfynol. Wedi’i hadeiladu yn y 15fed Ganrif mae werth ymweld â’r Eglwys.
- Rhaeadr y Bers wedi’i dynnu gan Carl Edwards. Bob amser yn un o’n hoff olygfeydd o Wrecsam ac nid oedd modd osgoi cynnwys o leiaf un golygfa gyda’r rhaeadr hardd hon yn Wrecsam.
- Pont Farndon wedi’i dynnu gan Ian Lucas, AS, Pont Farndon – mae nifer yn credu bod y bont yn Lloegr! Fodd bynnag, dyma’r porth canoloesol i Wrecsam ac mae’n edrych yn hyfryd yn y llun hwn. Croeso i Gymru!
- Llyn Hanmer wedi’i dynnu gan Paul Wynn. Mae Llyn Hanmer mewn ardal hardd a hanesyddol yn Wrecsam – y Maelor. Mae’n dystiolaeth nad oes yn rhaid i chi fynd yn bell yn Wrecsam i weld golygfeydd trawiadol.
- Castell y Waun wedi’i dynnu gan Steve Harvey. Adeilad Rhestredig Gradd 1, eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a chyda 700 mlynedd o hanes, does dim syndod ei fod yn y calendr hwn. Diolch i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am roi caniatâd i ni ddefnyddio’r darlun hwn.
- Llwyn Isaf, cartref y defaid wedi’i dynnu gan Iolanda Banu. Yn nghanol y dref mae hwn – sydd, gyda’i gyfeillion, yn denu plant ac oedolion i’w weld. Mae’r llwybr defaid yn eich arwain ar hyd y sir fwrdeistrefol – ac maent ei gyd mor swynol â’r un yma.
- Safle Seindorf Parc Bellevue wedi’i dynnu gan Paul Wynn. Trysor arall yng nghanol y dref- mae’r parc Fictoraidd yn parhau i fod yn boblogaidd gyda phobl leol ac ymwelwyr ac mae safle’r seindorf yn cynnal nifer o ddigwyddiadau Cerddoriaeth yn y Parc yn ystod misoedd yr haf.
- Tŷ Injan Penrhos wedi’i dynnu gan Ben Hughes. Mae’r Heneb Gofrestredig yma ym Mrymbo yn ein hatgoffa o’n treftadaeth ddiwydiannol. Wedi’i adeiladu gan John Wilkinson ar ddiwedd y 18fed Ganrif, credir mai dyma’r peiriandy pwll glo hynaf sydd wedi goroesi yng Nghymru.
- Stryt y Banc wedi’i dynnu gan Danny Edwards. Un o’r strydoedd hynaf yn Wrecsam, Stryt y Banc, yn parhau i fod yn stryd brysur yng nghanol y dref. Yn gartref i sawl hen adeilad ac yn elfen y mae’n rhaid i ymwelwyr canol y dref ei gweld.
- Traphont Ddŵr Pontcysyllte wedi’i dynnu gan Ben Hughes. Canolbwynt Safle Treftadaeth y Byd Pontcysyllte ac un na ddylid ei golli – mae’r darlun anhygoel hwn yn crynhoi hirhoedledd y strwythur. Faint o aeafau sydd wedi mynd heibio? Ymhell dros 250 ers ei adeiladu ac mae’n parhau i fod yn hardd! Nadolig Llawen i bawb.
DWI ISIO MYNEGI FY MARN!
DOES DIM OTS GEN