Mae’r rhestr fer wedi cael ei chyhoeddi ar gyfer Gwobrau Chwaraeon 2019 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a fydd yn cael ei chynnal mewn seremoni yng Nghlwb Chwaraeon a Chymdeithasol Brymbo, dydd Gwener 15 Chwefror.
Mae’r categorïau’n amrywiol, a daw’r enwebeion o ystod eang o gefndiroedd – ac mae chwaraeon mor wahanol â phêl-droed, cleddyfaeth, crefft ymladd, nofio a bowls wedi’u cynnwys ar y rhestr.
Mae’r categorïau’n ymdrin â phob lefel o chwaraeon cymunedol – ac mae ychydig o’r athletwyr wedi cystadlu ar y llwyfan byd eang.
Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi, sydd â chyfrifoldeb dros Hamdden: “Mae pawb sydd ar y rhestr wedi rhagori yn eu maes, ac mae eu henwebiadau yn haeddiannol iawn.
“Mae pob un ohonynt yn haeddu cydnabyddiaeth am eu hymdrechion – boed hynny trwy eu gwaith caled fel hyfforddwr, neu eu hymdrechion yn ceisio gwella’n gorfforol ar ôl anaf.
“Dwi’n llongyfarch pawb sydd wedi dod mor bell a dwi’n edrych ymlaen at weld pwy fydd yn ennill ar y noson”.
Mae’r enwebiadau ar gyfer gwobrau eleni wedi’u hamlinellu isod – tarwch olwg arnynt! Efallai eich bod yn adnabod rhai o’r sêr sydd wedi cael eu henwebu am wobr eleni.
Gwirfoddolwr y Flwyddyn – (Noddwyd gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam)
- Delwyn Derrick – Bellevue FC
- Sarah Warburton – Cefn Mawr Rangers FC
- Llysgenhadon Ifanc Aur ac Arian Clywedog – Ysgol Clywedog
- Steve Wilk – Clwb Nofio Dreigiau’r Waun
Hyfforddwr y Flwyddyn – Noddwyd gan Charisma Trophies
- Ady Jones – Ady Jones Taekwondo
- Kieran Howard – Clwb Pêl-droed Ieuenctid Brymbo Lodge
- Victoria Furlong Hart – Clwb Golff Wrecsam
Gwobr Cyflawniad mewn Iechyd Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) – Noddwyd gan NERS
- Enis Stevens
- Mike Bishop
- Nicola Tooke
- Peter Francis
Sefydliad y Flwyddyn – Noddwyd gan Ganolfan Tennis Wrecsam
- Clwb Bowls Parc Bradle
- Clwb Pêl-droed Brickfield Rangers
- Clwb Pêl-droed Ieuenctid Brymbo Lodge
- Ymddiriedolaeth Splash
- Clwb Pêl-droed Cynhwysol Wrecsam
- Ysgol St Christophers
Personoliaeth Chwaraeon i’r Anabl y Flwyddyn – Noddwyd gan Get Out, Get Active a Chwaraeon Anabledd Cymru
- Megan Weetman – Clwb Athletaidd Olympaidd Arbennig Wrecsam
- Sabrina Fortune – Clwb Athletaidd Olympaidd Arbennig Wrecsam
- Shaun Stocker – Codi Pwysau Paralympaidd Cyn-filwyr Dall
Personoliaeth Chwaraeon Ieuenctid y Flwyddyn – Noddwyd gan y Cyng I David Bithell MBE
- Cory Jones – Clwb Bocsio Maelor/Ysgol y Grango
- Daniel Thompson – Saethyddiaeth GB
- Ellie Jones – Tîm Rasio One Planet Adventure
- Joe Howell – Clwb Criced Llai /Ysgol y Grango
- Josie Wiliams – Clwb Pêl-rwyd Rhosnesni
Personoliaeth Chwaraeon – Noddwyd gan Freedom Leisure
- Sabrina Fortune – Clwb Athletaidd Olympaidd Arbennig Wrecsam
- Steph Phennah – Clwb Cleddyfaeth Wrecsam
- Glen Edwards – Ady Jones Taekwondo
Gwasanaeth i Chwaraeon
- David Jones – Clwb Bocsio Maelor
- Raymond Barnes – Clwb Bowls Parc Bradle
- Tony Birch – Clwb Pêl-droed Brymbo
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR