“Cyfieithiad o erthygl gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi”
Yr wythnos hon, bydd Cyllid a Thollau EM yn dechrau cysylltu ag oddeutu 3.5 miliwn o gwsmeriaid a all fod yn gymwys i dderbyn Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth (SEISS) y Llywodraeth er mwyn egluro’r broses ymgeisio a’u helpu i baratoi ar gyfer gwneud cais.
Mae’r gwasanaeth hawlio yn agor ddydd Mercher 13 Mai ac yn cael ei ddarparu yn gynt na’r disgwyl, gyda’r taliadau yn cyrraedd cyfrifon banc ar 25 Mai neu chwe diwrnod gwaith ar ôl cyflwyno’r cais.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Bydd y cynllun yn gymorth i unigolion hunangyflogedig neu’r rheiny mewn partneriaeth lle mae’r coronafeirws wedi cael effaith niweidiol ar y busnes, gan ofalu am y rhan fwyaf o bobl sy’n derbyn o leiaf hanner eu hincwm drwy hunangyflogaeth. Mae SEISS yn gynllun dros dro a fydd yn galluogi’r rheiny sy’n gymwys i hawlio grant trethadwy gwerth 80% o’u helw masnachol cyfartalog o hyd at £7,500 (cyfwerth ag elw tri mis) mewn un taliad.
Mae Cyllid a Thollau EM yn defnyddio gwybodaeth y mae cwsmeriaid wedi’i darparu ar eu ffurflenni treth ar gyfer 2018-19 (a ffurflenni treth 2016-17 a 2017-18 os oes angen) i benderfynu a yw unigolion yn gymwys ac maen nhw’n cysylltu â chwsmeriaid a all fod yn gymwys drwy e-bost, SMS neu lythyr. Rydym ni hefyd yn lansio gwirydd ar-lein ddydd Llun 4 Mai a fydd yn caniatáu i gwsmeriaid wirio a ydyn nhw’n gymwys i ymgeisio yn ogystal â derbyn dyddiad ar gyfer ymgeisio.
Mae cwsmeriaid yn gymwys os yw’r coronafeirws wedi effeithio’n sylweddol ar eu busnes, os oedden nhw’n masnachu yn 2019-20, os ydyn nhw’n bwriadu parhau i fasnachu ac:
- Yn ennill o leiaf hanner eu hincwm drwy hunangyflogaeth
- Ag elw masnachu nad yw’n fwy na £50,000 y flwyddyn
- Wedi masnachu ym mlwyddyn dreth 2018-2019 ac wedi cyflwyno ffurflen dreth hunanasesu ar neu cyn 23 Ebrill 2020 ar gyfer y flwyddyn honno
Os yw unigolion yn anghymwys ar gyfer y cynllun bydd Cyllid a Thollau EM yn eu cyfeirio at ganllawiau sy’n cynnwys yr amodau er mwyn eu helpu i ddeall pam nad ydyn nhw’n gymwys ac yn darparu cyngor ar fathau eraill o gefnogaeth a all fod ar gael e.e.: Gohirio treth incwm, cymorth i rentu, Credyd Cynhwysol, mynediad i wyliau morgais a chynlluniau cymorth amrywiol i fusnesau y mae’r llywodraeth wedi’u cyflwyno i amddiffyn busnesau yn ystod y cyfnod hwn.
Maen nhw’n rhagweld y bydd eu llinellau ffôn yn brysur iawn yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf wrth i bobl hawlio cyllid y cynllun newydd. O ganlyniad, maen nhw’n annog cwsmeriaid i beidio â chysylltu â nhw oni bai bod yr hyn sydd ei angen arnyn nhw ddim ar gael ar GOV.UK, drwy asiant treth neu drwy’r gwasanaeth gwe-sgwrsio – bydd hyn wedyn yn sicrhau bod y llinellau ffôn ar agor i’r rheiny sydd wir angen cymorth.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19