Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyllid a Thollau EM yn gwahodd gweithwyr hunangyflogedig i baratoi i wneud eu ceisiadau
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Cyllid a Thollau EM yn gwahodd gweithwyr hunangyflogedig i baratoi i wneud eu ceisiadau
Busnes ac addysgPobl a lle

Cyllid a Thollau EM yn gwahodd gweithwyr hunangyflogedig i baratoi i wneud eu ceisiadau

Diweddarwyd diwethaf: Mai 5, 2020 5:17 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
HMRC
RHANNU

“Cyfieithiad o erthygl gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi”

Yr wythnos hon, bydd Cyllid a Thollau EM yn dechrau cysylltu ag oddeutu 3.5 miliwn o gwsmeriaid a all fod yn gymwys i dderbyn Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth (SEISS) y Llywodraeth er mwyn egluro’r broses ymgeisio a’u helpu i baratoi ar gyfer gwneud cais.

Mae’r gwasanaeth hawlio yn agor ddydd Mercher 13 Mai ac yn cael ei ddarparu yn gynt na’r disgwyl, gyda’r taliadau yn cyrraedd cyfrifon banc ar 25 Mai neu chwe diwrnod gwaith ar ôl cyflwyno’r cais.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Bydd y cynllun yn gymorth i unigolion hunangyflogedig neu’r rheiny mewn partneriaeth lle mae’r coronafeirws wedi cael effaith niweidiol ar y busnes, gan ofalu am y rhan fwyaf o bobl sy’n derbyn o leiaf hanner eu hincwm drwy hunangyflogaeth. Mae SEISS yn gynllun dros dro a fydd yn galluogi’r rheiny sy’n gymwys i hawlio grant trethadwy gwerth 80% o’u helw masnachol cyfartalog o hyd at £7,500 (cyfwerth ag elw tri mis) mewn un taliad.

Mae Cyllid a Thollau EM yn defnyddio gwybodaeth y mae cwsmeriaid wedi’i darparu ar eu ffurflenni treth ar gyfer 2018-19 (a ffurflenni treth 2016-17 a 2017-18 os oes angen) i benderfynu a yw unigolion yn gymwys ac maen nhw’n cysylltu â chwsmeriaid a all fod yn gymwys drwy e-bost, SMS neu lythyr. Rydym ni hefyd yn lansio gwirydd ar-lein ddydd Llun 4 Mai a fydd yn caniatáu i gwsmeriaid wirio a ydyn nhw’n gymwys i ymgeisio yn ogystal â derbyn dyddiad ar gyfer ymgeisio.

Mae cwsmeriaid yn gymwys os yw’r coronafeirws wedi effeithio’n sylweddol ar eu busnes, os oedden nhw’n masnachu yn 2019-20, os ydyn nhw’n bwriadu parhau i fasnachu ac:

  • Yn ennill o leiaf hanner eu hincwm drwy hunangyflogaeth
  • Ag elw masnachu nad yw’n fwy na £50,000 y flwyddyn
  • Wedi masnachu ym mlwyddyn dreth 2018-2019 ac wedi cyflwyno ffurflen dreth hunanasesu ar neu cyn 23 Ebrill 2020 ar gyfer y flwyddyn honno

Os yw unigolion yn anghymwys ar gyfer y cynllun bydd Cyllid a Thollau EM yn eu cyfeirio at ganllawiau sy’n cynnwys yr amodau er mwyn eu helpu i ddeall pam nad ydyn nhw’n gymwys ac yn darparu cyngor ar fathau eraill o gefnogaeth a all fod ar gael e.e.: Gohirio treth incwm, cymorth i rentu, Credyd Cynhwysol, mynediad i wyliau morgais a chynlluniau cymorth amrywiol i fusnesau y mae’r llywodraeth wedi’u cyflwyno i amddiffyn busnesau yn ystod y cyfnod hwn.

Maen nhw’n rhagweld y bydd eu llinellau ffôn yn brysur iawn yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf wrth i bobl hawlio cyllid y cynllun newydd. O ganlyniad, maen nhw’n annog cwsmeriaid i beidio â chysylltu â nhw oni bai bod yr hyn sydd ei angen arnyn nhw ddim ar gael ar GOV.UK, drwy asiant treth neu drwy’r gwasanaeth gwe-sgwrsio – bydd hyn wedyn yn sicrhau bod y llinellau ffôn ar agor i’r rheiny sydd wir angen cymorth.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Nursery admission Ceisiadau ar gyfer dosbarth meithrin 2020, penderfyniadau allan ar ddydd Gwener 8 Mai
Erthygl nesaf Council Tax Ydych chi’n rhentu’n breifat neu yn landlord? Sut i ddelio â phroblemau sy’n ymwneud ag eiddo yn ystod COVID-19

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Medi 22, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English