Gall grwpiau chwaraeon wneud cais am arian wrth i’r rownd nesaf o geisiadau Cist Gymunedol ddechrau.

Anogir mentrau chwaraeon cymunedol ar draws Wrecsam i fanteisio ar gronfa a allai eu cynorthwyo i gyflawni eu rolau cyn y dyddiad cau am geisiadau.

Mae Chwaraeon Cymru, sy’n annog a chefnogi cyfranogiad chwaraeon ledled Cymru, yn cynnig hyd at £1500 ar gyfer grwpiau drwy’r Gist Gymunedol.

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Mae grant datblygu Chwaraeon Cymru hefyd yn agored i grwpiau sy’n edrych ar gyflawni prosiectau mwy, megis ehangu neu estyniad.

Mae ceisiadau ar gyfer y rownd hon o gyllid ar agor tan ddydd Mercher, Ionawr 15 ac fe fydd panel yn cyfarfod i drafod y ceisiadau ddydd Mercher, Ionawr 29.

Hon bydd y rownd buddsoddi olaf y flwyddyn ariannol hon.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Louise Brady, Rheolwr Cynorthwyol Datblygu Chwaraeon yng Nghyngor Wrecsam, ar 01978 297359 neu drwy e-bost at louise.brady@wrexham.gov.uk.

Mae gwybodaeth hefyd ar gael ar ein gwefan.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

COFRESTRWCH FI RŴAN