Mae ychydig newyddion da i chwaraeon cymunedol wrth i Chwaraeon Cymru gyhoeddi eu Grant Cynnydd (Progress Grant) newydd a fydd yn darparu cyllid o hyd at £50,000 er mwyn helpu i glybiau a gweithgareddau fod yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Nod y grant hwn yw helpu clybiau cymunedol i fynd i’r afael ag un neu fwy o’r 3 maes canlynol:
- Herio anghydraddoldeb
- Creu datrysiadau hir-dymor er mwyn bod yn fwy cynaliadwy
- Defnyddio dulliau gweithredu arloesol
Mae mwy o wybodaeth ar gael o’u Canolfan Gymorthb
Gallai olygu cyllid tuag at:
- Cyfleusterau
- Technoleg
- Addysg hyfforddwyr
- Offer
Mae’r grant hwn yn bosib diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol.
Gallwch wneud cais ar-lein Yma
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG