Ddiwedd mis Mai cymeradwyodd Pwyllgor Archwilio’r Cyngor Ddatganiad Cyfrifon 2019/20 yn amodol ar archwiliad ac mae’r Archwilwyr yn gweithio arnyn nhw rŵan. Bydd yr archwiliad wedi’i gwblhau yn barod ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor Archwilio ar 24 Medi a bydd y cyfrifon ar gael i’w harchwilio.
Ar 1 Mai 2020 ystyriodd y Cyngor adroddiad alldro 2019/20. Cafodd cyllideb derfynol y llynedd ei chydbwyso gydag ychydig bach o danwariant (£11,000) yn erbyn cyllideb o £237 miliwn. Fodd bynnag, adroddwyd bryd hynny bod pwysau yn datblygu mewn gwasanaethau penodol, yn enwedig gofal cymdeithasol plant a gwasanaethau cludiant ysgol a chludiant eraill.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Mae Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio, Jerry O’Keeffe, yn atgoffa etholwyr: “O ddydd Llun 3 Awst 2020 tan ddydd Gwener 28 Awst 2020 (gan gynnwys y dyddiadau hynny), rhwng 9.30am a 4.15pm ddydd Llun i ddydd Gwener, bydd modd i unrhyw berson â diddordeb, ar ôl gwneud cais i Brif Swyddog Cyllid a TGCh y Cyngor yn Stryt y Lampint, Wrecsam, archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2020 a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau a thalebau a derbynebau cysylltiedig.”
Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf tarodd pandemig Covid-19 ac ers y dyddiad hwnnw mae pob cyngor wedi bod yn rheoli eu cyllidebau fesul mis. Yn ystod gweithdy a gynhaliwyd yr wythnos hon trodd Aelodau eu sylw at sefyllfa ariannol y flwyddyn bresennol a dechrau ystyried diweddaru Cynlluniau Ariannol Tymor Canolig y blynyddoedd i ddod.
Yn ôl y disgwyl, mae rhai o’r pwysau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn parhau ac yn cynyddu o ganlyniad i Covid-19. Mae’r galw ar y cyllidebau gofal yn cynyddu ac mae’r Cyngor erbyn hyn yn ystyried sut i flaenoriaethu ei adnoddau cyfyngedig i sicrhau bod y gyllideb ar y trywydd cywir i gydbwyso ar ddiwedd y flwyddyn bresennol.
Mae’r Cyngor wedi dechrau gweithio ar hyn er mwyn gwneud penderfyniadau yn gynnar yn yr hydref ond, yn amlwg, mae hyn yn mynd i fod yn anodd ac fe all olygu cwtogi neu stopio rhai gwasanaethau. Mae’r Cyngor yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau bod y pwysau yn sgil costau a cholli incwm o ganlyniad i Covid-19 yn cael eu hariannu’n llawn gan y Llywodraeth Ganolog.
Ar hyn o bryd nid yw sefyllfa’r flwyddyn nesaf yn glir. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant.
Meddai’r Cyng. Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad a Llywodraethu: “Mae pawb yn y llywodraeth leol dan bwysau trwm iawn oherwydd y pandemig. Yn Wrecsam rydym ni’n dechrau ar bethau’n gynnar er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa ariannol sy’n datblygu. Wrth reswm, bydd pob un o’r 22 cyngor angen cefnogaeth Llywodraeth Cymru i ddelio â’u cyllidebau a’r pwysau yn sgil Covid-19, yn ogystal â chymorth i baratoi ar gyfer cyfnod anodd iawn y flwyddyn nesaf.”
YMGEISIWCH RŴAN