Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cymeradwyaeth ffurfiol i Barth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Cymeradwyaeth ffurfiol i Barth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg

Cymeradwyaeth ffurfiol i Barth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 19, 2025 10:45 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Manufacturing
RHANNU

Mae Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam wedi’i gymeradwyo’n ffurfiol gan lywodraethau’r DU a Chymru – gan nodi dechrau rhaglen 10 mlynedd a fydd yn rhoi hwb i’r economi ranbarthol.

Bydd gwaith nawr yn dechrau o ddifrif, gyda rhaglen o grantiau, hyfforddiant, gwelliannau seilwaith a chymorth busnes yn helpu i ddatgloi cyfleoedd newydd i gyflogwyr, buddsoddwyr a chymunedau lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam a Chadeirydd Uchelgais Gogledd Cymru, y corff strategol sy’n cydlynu’r gwaith: “Trwy ganolbwyntio ar Weithgynhyrchu Uwch, Arloesi, Sgiliau a Seilwaith, bydd y Parth Buddsoddi yn chwarae rhan hanfodol wrth yrru twf economaidd cynaliadwy.

“Bydd yn helpu i greu swyddi o ansawdd uchel a chryfhau sefyllfa’r rhanbarth fel pwerdy ar gyfer diwydiant datblygedig yng Nghymru, ac rwy’n falch iawn bod llywodraethau’r DU a Chymru wedi rhoi eu cymeradwyaeth ffurfiol. Dyma ddechrau taith gyffrous iawn i Sir y Fflint a Wrecsam.”

Dywedodd y Cynghorydd Dave Hughes, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: “Mae hwn yn gam hynod gadarnhaol, a bydd y Parth Buddsoddi newydd yn rhoi llwyfan i ni ddenu buddsoddiad, syniadau a chyfleoedd newydd – cefnogi busnesau, creu swyddi ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.

“Mae gan Sir y Fflint a Wrecsam sylfaen anhygoel eisoes o wneuthurwyr arloesol, o’r radd flaenaf, a bydd y Parth Buddsoddi yn ein galluogi i adeiladu ar hyn a helpu i ddatgloi potensial enfawr y rhanbarth.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans: “Bydd Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cyflawni ein Cenhadaeth Economaidd trwy ddenu buddsoddiad mawr, creu miloedd o swyddi sy’n talu’n dda, a chadarnhau enw da’r rhanbarth fel canolbwynt ar gyfer gweithgynhyrchu uwch ac arloesi.

“Mae’r cyhoeddiad hwn yn benllanw gwaith partneriaeth helaeth gan bartneriaid rhanbarthol a’r llywodraeth, ac mae’n gyfle enfawr i ddatgloi twf a sicrhau manteision sylweddol i fusnesau a chymunedau’r ardal.”

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, Jo Stevens: “Mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi £160 miliwn yn y Parth Buddsoddi hwn i gynyddu twf economaidd, ysgogi buddsoddiad preifat a chreu miloedd o swyddi newydd â chyflogau da a fydd yn rhoi arian ym mhocedi pobl Gogledd Cymru.

“Mae potensial enfawr ar gyfer twf ac ar gyfer adeiladu ar yr arbenigedd gweithgynhyrchu uwch sydd eisoes yn bodoli yn y rhan hon o Gymru. Rwy’n falch iawn ein bod yn symud ymlaen gyda’r rhaglen a fydd yn cael effaith drawsnewidiol i bobl sy’n byw ac yn gweithio yng ngogledd ddwyrain Cymru.”

Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei rhannu wrth i wahanol grantiau, rhaglenni hyfforddi a chyfleoedd eraill ddod ar-lein.

I gadw i fyny, ewch i wefannau Cyngor Sir y Fflint a Cyngor Wrecsam.

Rhannu
Erthygl flaenorol elite tennis Twrnamaint Agored Wrecsam Lexus 2025: Yn Trawsnewid y Byd Tenis yng Ngogledd Cymru a’r DU
Erthygl nesaf Two people chatting over a cup of coffee Mae’r fenter Mannau Cynnes yn dychwelyd ledled Wrecsam yn ystod y misoedd oerach

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg

Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol

Awst 20, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English