Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae’r fenter Mannau Cynnes yn dychwelyd ledled Wrecsam yn ystod y misoedd oerach
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Mae’r fenter Mannau Cynnes yn dychwelyd ledled Wrecsam yn ystod y misoedd oerach
ArallDigwyddiadauPobl a lle

Mae’r fenter Mannau Cynnes yn dychwelyd ledled Wrecsam yn ystod y misoedd oerach

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 19, 2025 2:26 pm
Rhannu
Darllen 6 funud
Two people chatting over a cup of coffee
RHANNU

Yn ystod yr argyfwng costau byw presennol, efallai y bydd preswylwyr yn poeni am wresogi eu cartrefi trwy gydol y misoedd oerach.

Cynnwys
  • Gweithgareddau a chymorth
  • Ble i ddod o hyd i’ch hwb Mannau Cynnes agosaf
  • Ar agor i bawb

Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, rydym wedi sefydlu’r fenter “Mannau Cynnes”. Ledled ardal Wrecsam, mae adeiladau cymunedol yn ymuno ac yn cynnig mannau cynnes i breswylwyr.

Yn ogystal â llyfrgelloedd Wrecsam a Hwb Lles Wrecsam sy’n cymryd rhan, mae 19 o sefydliadau cymunedol yn cynnig hybiau lle mae pobl yn gallu cynhesu eu hunain, cymryd rhan mewn gweithgareddau a derbyn diod gynnes neu hyd yn oed pryd poeth.

Gweithgareddau a chymorth

Mae’r fenter yn rhedeg o nawr tan ganol mis Mawrth ac mae amserlen weithgareddau ar gael yn yr hybiau sy’n cymryd rhan. Mae hyn yn cynnwys gemau bwrdd, jig-sos, gweithgareddau crefft neu ddarparu lle i gael diod a phryd o fwyd cynnes am ddim. 

Nod arall yw mynd i’r afael â chynhwysiant cymunedol ac unigrwydd. 

Bydd cymorth a chyngor gan asiantaethau megis Cyngor ar Bopeth a Cymru Gynnes ar gael mewn rhai sesiynau. 

Ble i ddod o hyd i’ch hwb Mannau Cynnes agosaf

Yn ogystal â llyfrgelloedd lleol sy’n croesawu pobl i ymuno yn y mannau cynnes a Hwb Lles Wrecsam sy’n cymryd rhan, mae’r hybiau canlynol ar gael ar y diwrnodau a’r amseroedd isod tan ganol mis Mawrth.

Dydd Llun

  • Neuadd Plwyf Rhostyllen – 10am – 1pm
  • Neuadd Santes Margaret (Acton) – 10am – 12pm
  • Prosiect Glowyr Wrecsam – 11am – 12:30pm

Dydd Mawrth

  • Neuadd Plwyf Rhostyllen – 10am – 12pm
  • Hwb Tyfu Bwyd We are Plas Madoc (51 Peris) – 5pm – 7pm
  • UareUK (Hwb Lles) – 10am – 2pm
  • Cyngor Cymuned Offa (Neuadd Gymunedol Maesgwyn) – 10am – 12pm
  • Cyngor Cymuned Offa (Tŷ Luke O’Connor, Hightown) 1pm – 3pm
  • The Rainbow Foundation (Canolfan Gymunedol Little Acton) – 11am – 1pm
  • The Rainbow Foundation (Canolfan Enfys Penley) – 12.30pm – 2.30pm
  • Prosiect Glowyr Wrecsam (Digwyddiad Cymdeithasol Nos Fawrth) – 6pm – 8pm

Dydd Mercher

  • UareUK (Hwb Lles) – 10am – 2pm
  • Ymddiriedolaeth Adfywio Brymbo a Than-y-fron (Canolfan Fenter Brymbo) – 10am – 2pm
  • Soups ‘R’ Us Cefn (Neuadd George Edwards, Cefn Mawr) – 10am – 2pm ( Ionawr 2026)
  • Hwb yr Orsedd (Yr Orsedd) – 11.30am – 3.30pm
  • Sesiwn Galw Heibio Mannau Cynnes Partneriaeth Parc Caia – 9.30am – 2.30pm
  • Prosiect Glowyr Wrecsam – 11am – 12:30pm

Dydd Iau

  • Neuadd Plwyf Rhostyllen – 10am – 1pm
  • Clwb Bwyd Parc Caia (Eglwys Sant Marc) – 10am – 1pm
  • Grŵp Pobl Hŷn Pentre Gwyn (Happy Hedgehog Cafe) – 10am – 2pm
  • Cyngor Cymuned Offa (Neuadd Gymunedol Maesgwyn) – 10am – 12pm
  • Cyngor Cymuned Offa (Parciau Bellevue) 1pm – 3pm
  • Sesiynau Crefft a Gwybodaeth Croeso Cynnes Tŷ Pawb – 9am – 5pm
  • Yr Hwb Lles – 10am – 2pm (Lluniaeth a phrydau poeth ar gael)
  • Clwb Cinio Partneriaeth Parc Caia – 10am – 2pm
  • Hyb Cymunedol Is-y-coed – 10am – 3pm

Dydd Gwener

  • Canolfan Gymunedol Pen-y-cae – 9am – 11am
  • The Rainbow Foundation (Neuadd Piercy Marchwiel) – 1.30 – 3.30pm

Ar agor i bawb

Mae’r gwasanaethau a’r gweithgareddau a gynigir yn agored i bawb. Dewch draw i’ch canolfan gymunedol neu’ch llyfrgell leol lle bydd croeso cynnes i chi.

Wrth sôn am y fenter, dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Cadeirydd y Gweithgor Costau Byw, “Mae’n gyfnod anodd i lawer o breswylwyr ar draws cymuned Wrecsam yn ystod yr argyfwng costau byw presennol. Gyda hyn mewn golwg, mae’n bwysig ein bod yn rhoi gwybod i’n preswylwyr bod gennym ganolfannau Mannau Cynnes ar agor iddynt mewn ymgais i helpu mewn rhyw ffordd yn ystod misoedd y gaeaf. Dyma enghraifft wych o sut mae pobl Wrecsam yn dod at ei gilydd ac yn cefnogi ei gilydd yn ystod cyfnodau anodd. Hoffwn ddiolch i’r holl dimau a chanolfannau cymunedol sy’n ymwneud â gwireddu hyn ac rwy’n gobeithio y gall llawer ohonoch fwynhau’r gweithgareddau amrywiol sydd ar gael.”

Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, yr Aelod Arweiniol ar faterion Trechu Tlodi, “Mae’r fenter Mannau Cynnes yn wasanaeth hanfodol ar sawl lefel. Yn ogystal â chefnogi ein gilydd trwy’r argyfwng ariannol heriol, mae hefyd yn gyfle da i gymdeithasu a dod at ei gilydd fel cymuned. Trwy gyllid Llywodraeth Cymru, mae gennym rwydwaith cymorth cryf ar draws ein hybiau cymunedol y mae croeso i bawb ddod i ymuno ag ef. Rwy’n anfon fy niolch i bawb sydd wedi gweithio’n anhygoel o galed i ddod â’r fenter hon yn ôl am yr hyn a fydd, gobeithio, yn ymgyrch lwyddiannus arall.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Manufacturing Cymeradwyaeth ffurfiol i Barth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Erthygl nesaf JC Edwards Wall and Public Garden site Wal a Gardd Gyhoeddus Newydd JC Edwards yn agor yn swyddogol yn Nhrefor

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst
Pobl a lle
Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Awst 25, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 24, 2026
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor
Awst 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Red Ensign Flag
ArallDigwyddiadauPobl a lle

Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch

Awst 24, 2026
Car park
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌

Awst 21, 2026
Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English