Wrth i’r argyfwng costau byw barhau a gyda’r tywydd oer yn gafael, rydyn ni’n falch o allu diweddaru’r rhestr o Ganolfannau Clyd sydd ar gael yn y sir.
Yn ogystal â’n holl lyfrgelloedd a’r Hwb Lles ar Stryt Caer, mae’r lleoliadau canlynol i gyd wedi llwyddo i gael cyllid grant i agor fel canolfannau clyd:
- Canolfan Glyd Bethel, Rhodfa Kenyon, Garden Village, LL11 2SP (dydd Mercher 10am–1pm).
- Clwb Bwyd Caia, Eglwys Sant Marc, Parc Caia, LL13 9LA (dydd Mawrth 11am–2pm).
- Y Ganolfan Gymdeithasol, Glyn Ceiriog, LL20 7HE (dydd Mercher 1pm–4pm).
- Cornel Glyd Cymuned Dolywern, Neuadd Goffa Oliver Jones, Dyffryn Ceiriog, LL20 7BA (dydd Mawrth a dydd Gwener 9.30am–3pm).
- Gardd Furiog Fictoraidd Erlas, Ffordd Bryn Estyn, Rhosnesni, LL13 9TY (dydd Llun i ddydd Gwener 10am–3pm).
- Canolfan Cefnogaeth Gymunedol Gwersyllt, Canolfan Adnoddau Gymunedol Gwersyllt, Gwersyllt, LL11 1ED (dydd Mawrth a dydd Iau 9am–1pm, dydd Mercher 10am–2pm).
- Adeilad yr Hwb, Parc Caia, LL13 8TH (dydd Mercher).
- Canolfan Glyd Tŷ Agored, Canolfan Adnoddau Gymunedol Acton, Acton LL12 7LB (dydd Gwener 10am–4pm).
- Canolfan Hamdden Plas Madoc, Plas Madoc, LL14 3HL (dydd Gwener 9am–12pm).
- Eglwys y Santes Fair, Rhiwabon, LL14 6TA (dydd Mawrth 12pm–4pm).
- Canolfan Glyd Canolfan Fenter Brymbo, Brymbo, LL11 5BT (dydd Mercher 10am–5pm).
- Croeso Cynnes yn Ymddiriedolaeth Gresffordd, LL12 8PS (dydd Iau 9.30am–12.30pm).
- Croeso Cynnes ar ddyddiau Llun yn Xplore!, Stryt Caer, Wrecsam LL13 8AE (dydd Llun 9.30am–2.30pm).
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD