Mae landlordiaid preifat wedi’u gwahodd i gyfarfod nesaf y Fforwm Landlordiaid, ddydd Mercher, 1 Mawrth 2023 am 5:30pm ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.
Bydd y Siaradwyr yn cynnwys:
- Sandra Towers – Cymdeithas Landlordiaid Preswyl Cenedlaethol
- Nick Hodgetts – Glixtone, Arbenigwyr Lleithder a Llwydni
- Bethan Jones – y wybodaeth ddiweddaraf am Rhentu Doeth Cymru
- Diweddariad gan yr Awdurdod Lleol
- Jo Seymour – Cymru Gynnes – y wybodaeth ddiweddaraf am ECO 4
- Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru – dros dro ar hyn o bryd
Dylai pawb gwrdd ym mhrif dderbynfa Prifysgol Glyndŵr Wrecsam. Darperir lluniaeth.
Mae disgwyl i’r Fforwm fod wedi gorffen erbyn 7:30pm.
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD