Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Creu miloedd o swyddi a rhoi hwb o £1bn i economi’r rhanbarth wedi i Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac aelodau’r Bwrdd Uchelgais lofnodi’r Cynllun Twf arloesol i’r Gogledd…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Creu miloedd o swyddi a rhoi hwb o £1bn i economi’r rhanbarth wedi i Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac aelodau’r Bwrdd Uchelgais lofnodi’r Cynllun Twf arloesol i’r Gogledd…
Busnes ac addysg

Creu miloedd o swyddi a rhoi hwb o £1bn i economi’r rhanbarth wedi i Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac aelodau’r Bwrdd Uchelgais lofnodi’r Cynllun Twf arloesol i’r Gogledd…

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 17, 2020 1:00 pm
Rhannu
Darllen 6 funud
North Wales Growth Deal being signed
RHANNU

Creu miloedd o swyddi a rhoi hwb o £1bn i economi’r rhanbarth wedi i Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac aelodau’r Bwrdd Uchelgais lofnodi’r Cynllun Twf arloesol i’r Gogledd…

Heddiw (dydd Iau) mae’r ddwy lywodraeth ac aelodau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi rhoi eu cymeradwyaeth ffurfiol i’r pum rhaglen sy’n ffurfio’r Cynllun Twf, sy’n yrrwr allweddol i’r Weledigaeth Twf gyffredinol ar gyfer y Gogledd.

- Cofrestru -
Wrecsam2029

Dan arweiniad Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru – sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r chwe chyngor yn y rhanbarth, y ddwy brifysgol, y ddau goleg a’r sector preifat – mae’r rhaglenni wedi’u ffurfio o 14 prosiect sy’n ymwneud ag ynni carbon isel, arloesi mewn gweithgynhyrchu gwerth uchel, bwyd-amaeth a thwristiaeth, cysylltedd digidol a thir ac eiddo.

Mae’r ddwy lywodraeth wedi gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid drwy gydol y broses ac roeddent wedi ymrwymo £240m – £120m yr un – yn flaenorol i helpu i wireddu’r Cynllun Twf.

Er mwyn dathlu’r garreg filltir hon, mynychodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi a Gogledd Cymru, gyfarfod rhithwir gyda’r Cynghorwyr Dyfrig Siencyn a Mark Pritchard, cadeirydd ac is-gadeirydd y Bwrdd Uchelgais.

Diolchodd y Cynghorydd Siencyn i’r ddwy lywodraeth am eu cefnogaeth a’u harweiniad drwy gydol y siwrne o’r Cais Twf cychwynnol i’r pwynt hwn.

“Ers y dechrau’n deg, rydym wedi gweithio mewn partneriaeth gan ystyried datblygiad yr economi rhanbarthol a chynaliadwyedd mewn ffordd newydd,” meddai.

“Bellach, mae’n rhaid i ni sicrhau bod y rhaglenni hyn yn adeiladu ar y sylfeini sydd eisoes wedi’u gosod gan wireddu buddsoddiad a newid cadarnhaol a hirhoedlog, yn benodol yn nhermau cyflogaeth ac amgylchedd glanach a gwyrddach.

“Mae’n destun balchder a chalondid i mi bod y Cynllun Twf wedi cael ei gymeradwyo ac mae’r gwaith go iawn yn dechrau’n awr – llongyfarchiadau a diolch i bawb sydd wedi chwarae eu rhan wrth ddod â ni i’r foment dyngedfennol hon.”

Creu miloedd o swyddi a rhoi hwb o £1bn i economi'r rhanbarth wedi i Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac aelodau’r Bwrdd Uchelgais lofnodi'r Cynllun Twf arloesol i'r Gogledd...

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Mae hon yn foment fawr i Ogledd Cymru, yn benllanw llawer o waith caled a phenderfyniad gan bartneriaid ar draws y rhanbarth.

“Mae wedi bod yn wir ymdrech partneriaeth, wedi ei llywio gan ddyhead cyffredin i sicrhau dyfodol economaidd llewyrchus i Ogledd Cymru.

“Bydd y buddsoddiad yn helpu i wella isadeiledd, atynnu buddsoddiad busnes a chreu swyddi – ac roedd yn fraint arwyddo’r fargen ar ran Wrecsam heddiw.”

Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Coronafeirws

Ychwanegodd Alwen Williams, y Cyfarwyddwr Portffolio: “Gyda’n gilydd, byddwn yn awr yn ceisio adeiladu economi cynaliadwy a chynhwysol ar gyfer y rhanbarth hwn, fel enghraifft o arfer orau ar gyfer ardaloedd eraill o’r DU, o fod wedi dysgu o lwyddiannau rhanbarthau eraill.

“Rydym yn croesawu’r cyfrifoldeb sydd arnom i gyflawni’r pecyn hwn o raglenni trawsffurfiol ac rydym yn barod i fwrw iddi – er lles ein cymunedau, ein busnesau a Gogledd Cymru.”

Caiff y rhaglenni eu rheoli gan y Swyddfa Portffolio, sydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Fusnes Conwy yng Nghyffordd Llandudno.

Eu prif amcan yw creu hyd at 3,800 o swyddi newydd erbyn 2036, cymorth i gynyddu’r economi o £2.2bn dros yr un cyfnod, a chyflawni cyfanswm o hyd at £1bn o fuddsoddiad.

Ymhlith y prosiectau cyntaf i gychwyn yn 2021 yw cynllun ynni adnewyddadwy Morlais, oddi ar arfordir Môn, sydd werth £35m.

Yn y cyfamser, mae buddsoddiad sylweddol wedi bod ledled y Gogledd mewn cysylltedd digidol, gyda safleoedd allweddol – yn cynnwys meddygfeydd, ysbytai a llyfrgelloedd – yn elwa o fand eang tra chyflym diolch i Raglen Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol (LFFN) yr Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), mewn partneriaeth â’r Bwrdd Uchelgais a’r Swyddfa Portffolio.

Gan ganmol y cynnydd sydd wedi’i wneud, dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: “Mae’n wych gweld cynllun twf economaidd cyffrous a thrawsffurfiol yn cael ei gyflawni ledled y Gogledd.

“Rydym am adfer i sefyllfa well yn sgil y pandemig a dod â swyddi a buddsoddiad i’n cymunedau, a dyna pam bod Llywodraeth y DU eisoes wedi ymrwymo £120m i’r prosiect hwn.

Mae Cynllun Twf Gogledd Cymru yn gyfle anhygoel i’r rhanbarth ac i economi ehangach Cymru. Gan weithio law yn llaw â llywodraeth leol a busnesau, byddwn yn sicrhau y bydd yn gwireddu llawn botensial y Gogledd.”

Ychwanegodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Gogledd Cymru: “Rwy’n falch o allu llofnodi’r cytundeb terfynol, gan roi sêl bendith i Gynllun Twf Gogledd Cymru, sydd â’r potensial i drawsffurfio economi’r rhanbarth.

“Ni allwn danbrisio’r heriau sy’n wynebu’r economi heddiw o ganlyniad i bandemig Covid-19. Bydd y Cynllun Twf yn rhan allweddol o adferiad y rhanbarth dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.

“Wedi’i gefnogi gan £120m gan Lywodraeth Cymru, bellach mae gan yr holl bartneriaid ledled y rhanbarth gyfle i adeiladu ar yr hyn y maen nhw eisoes wedi’i gyflawni er mwyn cyflawni twf gwyrdd a chynaliadwy – mae heddiw yn ddiwrnod hanesyddol i Ogledd Cymru.”

Am ragor o wybodaeth am y Cynllun Twf dilynwch @northwaleseab (Saesneg) a @buegogleddcymru (Cymraeg) ar y cyfryngau cymdeithasol.

???? Darganfyddwch y ffeithiau…darllenwch y gwybodaeth diweddaraf am brechlyn Covid-19 gan GIG Cymru ????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ffeithiau ailgylchu am Gymru...Bydd Wych. Ailgylcha. Ffeithiau ailgylchu am Gymru…Bydd Wych. Ailgylcha.
Erthygl nesaf Ffeithiau ac awgrymiadau ailgylchu ‘12 dydd Nadolig’ Ffeithiau ac awgrymiadau ailgylchu ‘12 dydd Nadolig’

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni
Pobl a lle
Awst 11, 2026
Water
Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr
Arall Fideo
Awst 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Groundwork
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Eisiau dysgu rhywbeth newydd? Mae disgwyl i Groundwork Gogledd Cymru ddarparu dosbarthiadau dysgu cymunedol AM DDIM ar draws Wrecsam a Sir y Fflint

Gorffennaf 22, 2026
Bethan, Noah a Gill
Busnes ac addysg

“Gwasanaeth ymroddedig i blant, teuluoedd a staff” – athrawes sydd wedi gwasanaethu am 43 mlynedd yn ymddeol

Gorffennaf 20, 2026
Youth Services Survey - young peope
Busnes ac addysgPobl a lle

Cwblhewch ein harolwg a helpwch i lunio dyfodol gwasanaethau ieuenctid yn Wrecsam

Gorffennaf 9, 2026
Ysgol Clywedog wedi'i symud o’r rhestr mesurau arbennig yn dilyn adroddiad cadarnhaol gan Estyn
Busnes ac addysg

Ysgol Clywedog wedi’i symud o’r rhestr mesurau arbennig yn dilyn adroddiad cadarnhaol gan Estyn

Gorffennaf 6, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English