Ydych chi’n berchen ar fenter fach neu ganolig yng Wrecsam? Hoffech chi ddatblygu’ch busnes ymhellach? Os felly, mae gennym ni’r union beth i chi.
Os hoffech chi fod ar eich ennill gyda’ch marchnata digidol, drwy ddenu cwsmeriaid a chleientiaid newydd na feddylioch chi erioed y bysech chi’n eu cael, yna gall gweithdy rhad ac am ddim Busnes Cymru fod yn berffaith ar eich cyfer chi.
Mae’r gweithdai yn cael eu cynnal o fis Ionawr tan ddiwedd mis Mawrth, mewn lleoliadau amrywiol gyda lle i niferoedd cyfyngedig mewn rhai gweithdai. Byddwch yn dysgu sut i fanteisio i’r eithaf ar eich strategaeth farchnata a gwasgu’r holl botensial posibl allan o’ch cynulleidfa.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
Byddwch hefyd yn dysgu sut y gall offer marchnata digidol eich helpu chi ymgysylltu â’ch marchnad darged, sut i ddatblygu strategaeth a fydd yn cynhyrchu gwerthiannau a’r hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio.
Dyma weithdy profedig sydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda 97% o’r mynychwyr yn dweud bod y gweithdy wedi bod o fudd iddyn nhw a rhai yn datgan eu bod nhw wedi “mwynhau ac elwa llawer ar y cwrs” a oedd yn “llawn gwybodaeth, gyda chynnwys a darpariaeth wych”.
Os yw’ch busnes chi wedi ei gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau neu Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, yna fe allwch chi fanteisio ar gefnogaeth un-i-un wedi ei theilwra, cynllun wedi ei lunio yn arbennig ar eich cyfer, adolygiad o’ch gwefan ac awgrymiadau ar sut i wella a chynyddu gwelededd eich gwefan. Byddwch hefyd yn derbyn cyngor ar y pecynnau a’r dechnoleg sy’n gallu’ch helpu chi i fod ar eich ennill a gweld gwelliannau yn gyflym.
Mewn byd sy’n newid yn barhaus, mae marchnata hefyd yn newid ac felly mae’n bwysig eich bod chi ar flaen y gad ac yn dal i ymgysylltu â’ch cynulleidfa a derbyn cyngor arbenigol sydd ar gael yn rhad ac am ddim.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth
COFIWCH EICH BINIAU