Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cymunedau’n Gyntaf – beth sy’n digwydd nesaf? Dysgwch fwy yma
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cymunedau’n Gyntaf – beth sy’n digwydd nesaf? Dysgwch fwy yma
Pobl a lleY cyngor

Cymunedau’n Gyntaf – beth sy’n digwydd nesaf? Dysgwch fwy yma

Diweddarwyd diwethaf: Medi 15, 2017 2:27 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Cymunedau’n Gyntaf – beth sy’n digwydd nesaf? Dysgwch fwy yma
RHANNU

Mae’n debyg eich bod wedi clywed llawer am Cymunedau’n Gyntaf yn y flwyddyn ddiwethaf, gyda straeon yn y wasg – yn lleol ac yn genedlaethol – wrth i’r cynllun ddod i ben y flwyddyn nesaf.

Cynnwys
  • Ydi Cyngor Wrecsam yn cau Cymunedau’n Gyntaf i lawr?
  • Ai dim ond yn Wrecsam y mae’r gwasanaethau yma’n dod i ben?
  • Ydi hyn oll ddim yn digwydd ar y funud olaf braidd?
  • Ydi hyn yn golygu na fydd y cynlluniau hyn ar gael mwyach?

Mae’n bosib nad yw llawer o bobl yn defnyddio gwasanaethau a ddarperir gan Cymunedau’n Gyntaf, na hyd yn oed yn gwybod amdano – tra bydd eraill wedi’i ddefnyddio’n rheolaidd.

Sefydlwyd Cymunedau’n Gyntaf gan Lywodraeth Cymru yn 2001, gyda’r nod o drechu tlodi yn 52 o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Fis Hydref y llynedd cyhoeddodd Carl Sergeant AC, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Gymunedau a Phlant, ei fod yn ystyried dod â Cymunedau’n Gyntaf i ben.

Cafwyd rhagor o fanylion gan Mr Sergeant ym mis Chwefror, wrth iddo gyhoeddi y byddai cyllid ar gyfer holl gynlluniau Cymunedau’n Gyntaf yn dod i ben erbyn Mawrth 2018.

Yn Wrecsam, mae Cymunedau’n Gyntaf yn gweithio ar draws nifer o “glystyrau” – ardaloedd yn y fwrdeistref sirol sy’n addas ac yn gymwys am gefnogaeth Cymunedau’n Gyntaf.

Y ddau glwstwr yn Wrecsam yw Clwstwr Parc Caia a Hightown, sy’n gwasanaethu (fel y mae’r enw’n ei awgrymu) Parc Caia a Hightown, a Chlwstwr y Pentrefi Trefol, sy’n cwmpasu nifer o ardaloedd – gan gynnwys Cefn Mawr, Gwersyllt a Llai.

Mae’r gwaith a wneir gan Cymunedau’n Gyntaf yn cynnwys llawer o ardaloedd, gan gynnig gwasanaethau dan dair blaenoriaeth, sef Ffyniant, Iechyd a Dysgu.

Ers 2015, bu’r prif ffocws ar gefnogi pobl i neu tuag at gael gwaith.

Gan fod y gwasanaethau a ddarparwyd gan Cymunedau’n Gyntaf wedi bod o fudd i nifer o bobl, gwyddom y bydd nifer o bobl eisiau gwybod beth fydd yn digwydd iddyn nhw nesaf, a pha gamau sy’n cael eu cymryd i weithio gyda nhw.

Mae nifer o bethau’n dal i gael eu sefydlu ac mae cynlluniau’n dal wrthi’n cael eu dirwyn i ben neu eu newid – ond dyma rai manylion sylfaenol.

Ydi Cyngor Wrecsam yn cau Cymunedau’n Gyntaf i lawr?

Nac ydi – ac nid Cyngor Wrecsam wnaeth ei gychwyn yn y lle cyntaf. Mae arian ar gyfer Cymunedau’n Gyntaf yn dod gan Lywodraeth Cymru, gyda’r cynghorau’n cynnal y gwasanaethau’n lleol.

Ai dim ond yn Wrecsam y mae’r gwasanaethau yma’n dod i ben?

Nage – mae’r penderfyniad i ddod â chynlluniau Cymunedau’n Gyntaf i ben yn effeithio Cymru gyfan, nid Wrecsam yn unig. Ar ôl Mawrth 31 2018, ni fydd Cymunedau’n Gyntaf yn cael ei ariannu yn unrhyw ardal yng Nghymru.

Ydi hyn oll ddim yn digwydd ar y funud olaf braidd?

Mae’r grwpiau hynny sy’n cynnal y gwasanaethau unigol a ariennir gan Cymunedau’n Gyntaf wedi cael gwybod bod yr arian yn dod i ben ers cyhoeddiadau Ysgrifennydd y Cabinet.

Fe allen nhw gychwyn cau’r gwasanaethau i lawr neu chwilio am ffynonellau cyllid eraill.

Mae Tîm Trosglwyddo, a weithredir gan Cymunedau’n Gyntaf, yn helpu grwpiau i ddod â chynlluniau unigol i ben ac edrych tua’r dyfodol.

Ochr yn ochr â gwaith y Tîm Trosglwyddo, mae Cymunedau’n Gyntaf hefyd wedi darparu cyllid i rai cynlluniau barhau yn ystod y misoedd sydd ar ôl.

Ydi hyn yn golygu na fydd y cynlluniau hyn ar gael mwyach?

Dyma’r ydym ni’n edrych arno ar hyn o bryd, ac fe hoffem archwilio sut y gall y Tîm Trosglwyddo helpu’r grwpiau a gefnogir gan Cymunedau’n Gyntaf i barhau yn y dyfodol.

Lle bo’n bosibl, gall y tîm eu helpu i sicrhau ffynonellau cyllid eraill, fydd yn gwneud yn siŵr eu bod yn aros yn hyfyw ac yn parhau â’u gwaith da.

Yn anffodus, ni fydd rhai ohonyn nhw’n gallu parhau y tu hwnt i ddiwedd Mawrth 2018 heb gyllid Cymunedau’n Gyntaf – ac yn yr achosion hynny, mae grwpiau wrthi’n rheoli’r broses o ddod â’r gwasanaethau unigol i ben, ac mae’r Tîm Trosglwyddo’n eu helpu lle bo hynny’n bosibl.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Emz Cakes: Chloe Farr Emily Jones Emma Wilson Mae mwy na chacennau yn Emz Cakes
Erthygl nesaf Pam dylai pobl Wrecsam cofrestru i bleidleisio Pam dylai pobl Wrecsam cofrestru i bleidleisio

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English