- Rhowch eich ailgylchu allan ar eich diwrnod casglu arferol (gan gynnwys gwastraff bwyd).
- Os na fydd wedi’i gasglu erbyn diwedd y dydd, ewch ag ef yn ôl i mewn.
- Os gallwch chi, ewch â rhywfaint o’ch ailgylchu i’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
- Peidiwch â rhoi eich bin du allan.
- Peidiwch â rhoi eich bin gwyrdd allan.
Sylwch, os na fyddwn yn llwyddo i gasglu eich ailgylchu ar eich diwrnod casglu arferol, ni fyddwn yn gallu dychwelyd ar ei gyfer y diwrnod canlynol (peidiwch â’i riportio fel casgliad bin a gollwyd).
Bydd aelodau Unite yn Wrecsam yn streicio eto am dair wythnos gan ddechrau dydd Llun, 25 Medi.
Cynhaliodd yr undeb llafur streic am bythefnos yn gynharach yn y mis, a effeithiodd ar gasgliadau bin ar draws y fwrdeistref sirol.
Roedd criwiau casglu sbwriel yn brin o weithwyr a chafodd lorïau bin drafferth gadael eu depo ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam oherwydd bod nifer fawr o brotestwyr yno.
Mae’r Cyngor yn disgwyl gweld amhariad tebyg y tro hwn, ac mae’n cynllunio i geisio rheoli gwasanaethau trwy dair wythnos anodd.
Beth fyddwn ni’n ei wneud yn ystod yr wythnos gyntaf?
Yn ystod wythnos gyntaf y streic (25-29 Medi), bydd Cyngor Wrecsam yn:
- Blaenoriaethu casgliadau ailgylchu.
- Atal casgliadau bin du a bin gwyrdd.
- Cysylltu â’r Heddlu a chynrychiolwyr Unite i helpu i sicrhau bod gweithgarwch y tu allan i’r depo yn ddigynnwrf a chyfreithlon, a bod lorïau bin yn gallu gadael.
- Cadw oriau agor estynedig mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
Beth ddylech chi ei wneud yn ystod yr wythnos gyntaf?
Yn ystod wythnos gyntaf y streic:
- Rhowch eich ailgylchu allan ar eich diwrnod casglu arferol (gan gynnwys gwastraff bwyd).
- Os na fydd wedi’i gasglu erbyn diwedd y dydd, ewch ag ef yn ôl i mewn.
- Os gallwch chi, ewch â rhywfaint o’ch ailgylchu i’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.
- Peidiwch â rhoi eich bin du allan.
- Peidiwch â rhoi eich bin gwyrdd allan.
Sylwch, os na fyddwn yn llwyddo i gasglu eich ailgylchu ar eich diwrnod casglu arferol, ni fyddwn yn gallu dychwelyd ar ei gyfer y diwrnod canlynol (peidiwch â’i riportio fel casgliad bin a gollwyd).
Pam na fydd biniau du yn cael eu casglu yn ystod yr wythnos gyntaf?
Dros yr wythnos diwethaf (18-22 Medi), mae ein criwiau wedi gweithio’n galed i sicrhau bod biniau du ar draws y fwrdeistref sirol yn cael eu gwagio.
Mae hyn yn golygu na ddylai unrhyw un fod yn cael trafferth â biniau du llawn ar hyn o bryd – felly mae’n gwneud synnwyr i ni ganolbwyntio ar gasglu ailgylchu yn ystod wythnos gyntaf y streic.
Mae’n bosibl y bydd ein canolbwynt yn newid yn ystod yr ail wythnos, ond byddwn ni’n rhannu mwy o wybodaeth dros y dyddiau nesaf.
Sylwch, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi os bydd cynlluniau’n newid yn ystod yr wythnos gyntaf hefyd, oherwydd bod effaith streiciau’n anodd ei rhagweld.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd, Cyngor Wrecsam: “Yn aml, ni fydd yr effaith ar gasgliadau’n glir tan y diwrnod, oherwydd bydd llawer yn dibynnu ar faint o weithwyr fydd ar gael a pha mor hawdd fydd hi i’n lorïau adael y depo os bydd protestwyr y tu allan.
“Oherwydd ein bod wedi canolbwyntio ar wagio biniau du dros yr wythnos diwethaf, mae’n gwneud synnwyr i flaenoriaethu ailgylchu yn ystod wythnos gyntaf y streic, a byddwn yn gwneud popeth a allwn i gasglu eich ailgylchu.
“Fodd bynnag, byddwch yn amyneddgar os na allwn ni eich cyrraedd chi, oherwydd mae’r amgylchiadau’n anodd iawn.
“Os gallwch chi, byddem yn eich annog chi i fynd â rhywfaint o’ch ailgylchu i’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Mae’r safleoedd yn Lôn y Bryn, Brymbo a Phlas Madoc ar agor tan 8pm bellach.
“Rydym yn sylweddoli bod yr amhariad hwn yn rhwystredig iawn, ond rydym yn gweithio’n galed i geisio rheoli gwasanaethau. Hoffem ddiolch i bawb am fod mor amyneddgar.”
Beth sy’n digwydd gyda biniau gwyrdd?
Mae’r Cyngor yn ymwybodol o bryderon am gasgliadau gwastraff gardd, sydd wedi’u hoedi ers i’r gweithredu diwydiannol ddechrau.
Rydym yn gwybod bod llawer o bobl yn teimlo’n rhwystredig a byddwn yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda chwsmeriaid pan fydd gennym ddealltwriaeth gliriach o effaith y streiciau.
Pam mae Unite yn streicio?
Mae aelodau Unite yn Wrecsam yn streicio fel rhan o anghydfod tâl cenedlaethol y Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol.
Caiff tâl gweithwyr y Cyngor ei drafod ar lefel genedlaethol rhwng y tri undeb llafur – Unite, GMB ac Unsain – a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn ogystal â Chymdeithas Llywodraeth Leol y DU.
Mae Wrecsam yn ymrwymedig i weithio gydag undebau llafur ond mae wedi’i gwneud yn glir bod yn rhaid i unrhyw drafodaethau gael eu cynnal ar lefel genedlaethol dan y trefniadau cydfargeinio arferol.
Ni all Cyngor Wrecsam negydu gydag Unite ar y mater cyflog cenedlaethol hwn.