Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gall bod ag Atwrneiaeth Arhosol roi tawelwch meddwl
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gall bod ag Atwrneiaeth Arhosol roi tawelwch meddwl
Pobl a lle

Gall bod ag Atwrneiaeth Arhosol roi tawelwch meddwl

Diweddarwyd diwethaf: Medi 22, 2023 1:11 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Lasting power of attorney
RHANNU

Mae’n bwysig iawn fod gan bobl hŷn rywun y gallant ymddiried ynddynt i wneud penderfyniadau ynglŷn â’u hiechyd a’u harian, os na allant wneud y penderfyniadau hyn drostynt eu hunain mwyach.

Cynnwys
  • Ydych chi’n ofalwr di-dâl?
    • Hyfforddiant Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru Yn Fuan

Mae Atwrneiaeth Arhosol (LPA) yn ddogfen gyfreithiol sy’n caniatáu i rywun wneud y penderfyniadau pwysig hyn dros unigolyn, neu weithredu ar eu rhan.

Mae llawer o fanteision i greu LPA:

  • Mae’n gyfle i siarad â theulu a ffrindiau ynghylch sut rydych yn dymuno rheoli eich arian, eich iechyd a’ch lles.
  • Bydd yn rhoi tawelwch meddwl i chi ac yn caniatáu i chi gadw rheolaeth.
  • Mae’n ffordd gyflymach a rhatach nag eraill o ymdrin â’ch penderfyniadau – megis gwneud cais i’r Llys Gwarchod.

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi gweithio mewn partneriaeth i lunio canllaw hwylus ar Atwrneiaeth Arhosol.

Nod y canllawiau yw helpu pobl ar draws Cymru i ddeall pwysigrwydd bod ag Atwrneiaeth Arhosol yn well, fel y gall pobl hŷn a’u hanwyliaid gynllunio ar gyfer eu dyfodol.

Os hoffech ddysgu mwy am yr hyn y gallai bod ag Atwrneiaeth Arhosol ei olygu i chi a’ch teulu, gallwch ofyn am ganllaw trwy fynd i wefan y Comisiynydd, anfon e-bost at gofyn@comisiynyddph.cymru neu ffonio 03442 640 670.

Ydych chi’n ofalwr di-dâl?

Ydych chi’n darparu gofal di-dâl i oedolyn neu blentyn anabl? Gallant fod yn aelod o’r teulu neu’n ffrind, na all, oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu ddibyniaeth, ymdopi heb eich cefnogaeth. Mae llawer o wybodaeth, cyngor a chymorth ar gael i chi fel gofalwr di-dâl.

Os hoffech gyngor, cymorth neu ragor o wybodaeth, cysylltwch â GOGDdC.

Hyfforddiant Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru Yn Fuan

Fe fydd Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru, sydd yn darparu gwasanaethau gofalwyr di-dâl ar ein rhan, yn cynnal Cwrs Hyfforddiant Atwrneiaeth Arhosol ddydd Gwener 29 Medi, am 10am yn 3a, Edison Court, Rhodfa Ellice, Wrecsam, LL13 7YT

Archebwch eich lle yma.

Maethu Cymru Wrecsam – dod yn ofalwr maeth.

Rhannu
Erthygl flaenorol 20mph Mae’r terfyn cyflymder 20mya wedi cyrraedd, beth nesaf?
Erthygl nesaf 25-29 Medi Cyngor am gasgliadau bin yn ystod wythnos gyntaf y streic (25-29 Medi)

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English