Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyngor Defnyddiol ar gyfer cadw’n ddiogel ar Noson Tân Gwyllt
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cyngor Defnyddiol ar gyfer cadw’n ddiogel ar Noson Tân Gwyllt
Y cyngor

Cyngor Defnyddiol ar gyfer cadw’n ddiogel ar Noson Tân Gwyllt

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 1, 2022 11:48 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Bonfire Night
RHANNU

Mae hi bron yn Noson Tân Gwyllt felly fe aethom ati i roi ychydig o gyngor defnyddiol at ei gilydd i’ch helpu chi i gadw chi’ch hunan a’ch plant yn ddiogel, felly gobeithio y gwnewch chi gymryd munud neu ddau i’w darllen.

Mae’n siŵr y byddwch chi wedi clywed y rhan fwyaf o hyn o’r blaen ond wneith o ddim drwg i ni atgoffa’n hunan o be’ ddylen ni fod yn ei wneud, jest rhag ofn….

Cymorth gyda chostau byw – hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi, lleihewch eich biliau, gofalwch am eich iechyd.

Peidiwch BYTH a thywallt petrol, paraffin na gwirod methyl ar dân. Defnyddiwch flociau cynnau tân.

Peidiwch a phrynu tân gwyllt gan unrhyw un nac o unman amheus – naill ai ar y rhyngrwyd neu’r cyfryngau cymdeithasol. Prynwch eich tân gwyllt gan gyflenwr dibynadwy.

Cofiwch mai dyfeisiadau ffrwydrol ydi tân gwyllt a bod yn rhaid eu gwerthu o dan amodau trwydded er mwyn sicrhau eu bod nhw’n ddiogel. Dylech eu trin â pharch bob amser.

Ein cyngor ni bob amser ydi, yn hytrach na phrynu eich tân gwyllt eich hun a’r risgiau sy’n gysylltiedig â hynny, beth am fynd i arddangosiad wedi’i drefnu? Mae’r tân gwyllt fel arfer yn llawer iawn gwell a fydd dim rhaid i chi boeni am gynnau tân gwyllt yn ddiogel.

Os byddwch yn defnyddio eich tân gwyllt eich hun, cofiwch ddefnyddio tortsh i ddarllen y cyfarwyddiadau’n iawn ac i weld be’ da’ chi’n neud.

Peidiwch a chodi ffyn gwreichion a thân gwyllt wedi’u defnyddio oddi ar y llawr – maen nhw’n debygol o fod yn boeth iawn ac fe allech ddioddef llosg poenus. Mae ffyn gwreichion yn llosgi ar dymheredd mor uchel a thorsh weldio felly gwisgwch fenig bob amser a byddwch yn ofalus iawn os bydd plant yn eu defnyddio.

Cadwch bwced o ddŵr yn agos rhag ofn y bydd damwain ac os oes gennych beipen ddŵr yn yr ardd, gofalwch bod modd troi’r dŵr ymlaen yn gyflym os bydd angen. Bydd rhain hefyd yn ddefnyddiol i ddiffodd y tân pan fyddwch wedi gorffen.

Peidiwch â gwisgo dillad llac a chlymwch wallt hir yn ôl.

Gadewch i’ch cymdogion wybod eich bod am gael tân gwyllt a faint o’r gloch er mwyn iddyn nhw fod yn barod. Peidiwch byth â chynnau tân gwyllt ar ôl hanner nos ar 5 Tachwedd.

Cadwch eich anifeiliaid anwes yn y tŷ ac os ‘da chi’n pryderu am unrhyw un ohonyn nhw siaradwch â’ch milfeddyg cyn Noson Tân Gwyllt a dilynwch ei gyngor.

Os ‘da chi’n byw mewn ardal wledig cofiwch roi gwybod i berchnogion ceffylau/da byw eich bod yn bwriadu cynnau tân gwyllt er mwyn iddynt nhw allu gwneud y trefniadau priodol ar gyfer eu hanifeiliaid.

Cofiwch os bydd eich arddangosiad yn achosi niwed neu ddifrod y gallech fod yn gyfreithiol atebol ac y gallai gostio’n ddrud i chi.

Os bydd pawb yn dilyn y trefniadau diogelwch cywir ac yn cofio bod camddefnyddio tân gwyllt yn hynod o beryglus, bydd yn noson tân gwyllt da a diogel i ni i gyd.

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/services/cymorth-gyda-chostau-byw”] HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Parking Mae cyfyngiadau parcio’n berthnasol gyda’r nos ac ar benwythnosau hefyd – parciwch yn gyfrifol bob amser.
Erthygl nesaf Active travel consultation Dweud eich dweud am gynlluniau i wella llwybrau cerdded a beicio yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English