Caiff gyrwyr eu hatgoffa i barcio’n gyfrifol yng nghanol dinas Wrecsam.
Mae swyddogion y Cyngor yn ymdrin â cheir sy’n parcio’n anghywir ac yn anystyriol, ac mae Heddlu Gogledd Cymru’n cefnogi hyn drwy fynd i’r afael â cherbydau sy’n achosi rhwystr neu wedi’u parcio’n beryglus.
Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor, sy’n gyfrifol am orfodaeth parcio: “Mae rhai gyrwyr wedi bod yn parcio eu cerbydau’n ddiwahân, gan achosi rhwystrau a blocio ffyrdd.
“Nid oes arnom ni eisiau rhoi dirwyon i bobl, ond pan mae gyrwyr yn parcio’n anystyriol ac yn achosi pryderon ynghylch diogelwch cerddwyr a defnyddwyr eraill y ffordd, nid oes gennym ddewis ond cyflwyno dirwyon parcio.
“Mae’r Cyngor a’r heddlu’n gofyn i bawb barcio’n ddiogel ac yn gyfreithlon, a helpu i gadw ein ffyrdd yn ddiogel i bawb.”