Mae’r Maer ac Arweinwyr Grwpiau yn cydnabod yr angen i gael trafodaeth gyhoeddus o safon uchel yng nghyfarfodydd y Cyngor sydd yn parchu gwahanol safbwyntiau ac unigolion, ac sy’n cynnal egwyddorion democrataidd.
Yn dilyn cyfarfodydd cadarnhaol rhwng y Maer, Arweinwyr Grwpiau a phrif swyddogion, ers cyfarfod y Cyngor ym mis Tachwedd, cydnabuwyd yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Tachwedd bod yna berygl os nad yw’r cyngor cyfreithiol y mae’r Swyddog Monitro yn ei roi ac sy’n cael ei dderbyn gan y Cyngor, wedi cael ei ddilyn, yna byddai’r Cyngor wedi gweithredu’n anghyfansoddiadol.
Er mwyn mynd i’r afael â hyn mewn cyfarfodydd yn y dyfodol, cytunwyd ar y camau gweithredu cadarnhaol canlynol:
- Hyfforddiant ar gyfer y Maer presennol sy’n ymwneud â chadeirio, y cyfansoddiad a rôl y swyddog monitro.
- Hyfforddiant ar gyfer y Meiri newydd yn y dyfodol sy’n ymwneud â chadeirio, y cyfansoddiad a rôl y swyddog monitro.
- Hyfforddiant i bob Cynghorydd fel rhan o’u cyfnod sefydlu am y mathau o drafodaethau mewn cyfarfodydd, y cyfansoddiad a rôl y swyddog monitro.