Diwrnod Hawliau Gofalwyr yma, mae Cyngor Wrecsam yn falch o gyhoeddi’n swyddogol ein bod wedi arwyddo Cyfamod Gofalwyr Ifanc, gan addo i gymryd camau ymarferol ac ystyrlon i ofalwyr ifanc.
Mae’r Cyfamod Gofalwyr Ifanc yn gyfres o ganlyniadau y mae pobl ifanc ar draws y DU wedi tynnu sylw atynt a’u bod yn allweddol i wella eu bywydau. Drwy arwyddo’r Cyfamod, mae’r Cyngor yn dangos ymrwymiad i wneud y canlyniadau yma’n realiti a sicrhau bod gofalwyr ifanc a gofalwyr sy’n oedolion ifanc yr un cyfleoedd bywyd â’u cyfoedion.
Cafodd y Cyfamod ei arwyddo gan ein Bwrdd Gweithredol ym mis Gorffennaf, ac mae camau gweithredu’n cael eu gosod gan grŵp Cyfamod Gofalwyr Ifanc, er mwyn sicrhau bod camau ystyrlon yn cael eu cymryd i fodloni’r canlyniadau a nodir yn y Cyfamod.
Meddai’r Cynghorydd Rob Walsh, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant: “Rydw i’n falch bod Cyngor Wrecsam wedi dangos ei ymrwymiad i gefnogi ein gofalwyr ifanc. Mae hi’n bwysig iawn cydnabod a chefnogi’r cyfraniadau amhrisiadwy y mae gofalwyr ifanc yn ei wneud i’w teuluoedd a chymunedau. Mae arwyddo’r Cyfamod yn adlewyrchu ymroddiad y Cyngor i sicrhau bod gan ofalwyr ifanc fynediad i’r adnoddau a chefnogaeth maen nhw ei angen i ffynnu’n bersonol ac yn academaidd yn Wrecsam.”
Meddai Sally Duckers, Arweinydd Tîm ar gyfer Credu: “Mae Gofalwyr Ifanc WCD yn falch bod Cyngor Wrecsam wedi ymrwymo’n ffurfiol i’r Cyfamod Gofalwyr Ifanc ac yn gobeithio y gallai ysgogi eraill i addo eu cefnogaeth. Mae’r Cyfamod yn ymrwymo i gydnabod a gwrando ar Ofalwyr Ifanc tra’n eu hamddiffyn nhw hefyd rhag ymgymryd â rolau gofalu amhriodol, eithafol neu rolau sy’n cael effaith negyddol.”
I gael rhagor o wybodaeth am y Cyfamod Gofalwyr Ifanc a sut y gallwch ei lofnodi, ewch i https://carers.org/campaigning-for-change/the-young-carers-covenant
I gael rhagor o wybodaeth am y gefnogaeth a’r cyngor sydd ar gael i Ofalwyr Ifanc yn Wrecsam, ewch i https://www.wcdgi.org.uk/