Mae Cyngor Wrecsam wedi croesawu cynlluniau gan Kellanova i fuddsoddi £75 miliwn yn ei ffatri grawnfwyd yn Wrecsam.
Bydd y trosglwyddiad yn troi’r safle yn un o ffatrioedd grawnfwyd mwyaf Ewrop ac yn creu 130 swydd newydd o leiaf.
Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi a Thwristiaeth: “Mae hyn yn newyddion gwych i economi Wrecsam.
“Bydd y buddsoddiad hwn yn creu 130 swydd fedrus â chyflog da ychwanegol, a bydd yn cydgrynhoi dyfodol hirdymor y ffatri… gan ei wneud y cynhyrchydd grawnfwyd mwyaf yn Ewrop.
“Ryw’n ymwybodol bod miliynau o bunnoedd yn cael eu buddsoddi gan gwmnïau yn Wrecsam ar hyn o bryd, ac mae hon yn enghraifft arall o hyder cwmnïau rhyngwladol i fuddsoddi yma.
Mae’r ardystiad gwych ar gyfer y ddinas a’r fwrdeistref sirol, ac mae’n dangos bod Wrecsam ar agor am fusnes.”
Mae’r cwmni eisoes yn cyflogi 350 o bobl ar y safle, a bu’n gyflogwr allweddol yn ardal Wrecsam a fwy na phedwar degawd.
Bydd y buddsoddiad mewn technoleg cynhyrchu cynaliadwy yn caniatáu i’r ffatri gynhyrchu 1.5 miliwn o focsys o rawnfwyd y dydd, gan sicrhau cynhyrchiad y DU o frandiau enwog megis Kellogg’s Corn Flakes, Crunchy Nut a Special K.