- Gofynnodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i Unite wrando ar eu safbwyntiau.
- O ganlyniad, trefnwyd cyfarfod ffurfiol a chyfarfodydd unigol i wrando ar Unite yr wythnos hon.
- Ar ôl cytuno â’r cyfarfodydd hyn ond cyn iddynt gael eu cynnal, mae Unite wedi trefnu 5 wythnos arall o weithredu diwydiannol. Mae hyn yn teimlo nad yw cynrychiolwyr unigol undebau llafur yn gweithredu er lles gweithwyr y Cyngor.
- Cyhoeddodd y Cyngor ei fod yn wynebu pwysau ariannol o £23 miliwn eleni, yn rhannol oherwydd nad yw codiadau cyflog cenedlaethol yn cael eu hariannu gan y llywodraethau cenedlaethol.
- Er gwaethaf hyn ac oherwydd bod y Cyngor yn cydnabod y pwysau sydd ar weithwyr mewn argyfwng costau byw, rhoddodd y Cyngor £600,000 ychwanegol i gefnogi gwelliannau mewn cyflogau lleol (ychwanegol) i weithwyr, yn cynnwys cael gwared ar raddfeydd cyflog is yn y blynyddoedd blaenorol. Cytunwyd ar hyn fel rhan o broses gosod cyllideb y Cyngor ym mis Chwefror eleni, a bydd yn y pecynnau cyflog am y tro cyntaf ym mis Hydref.
- Mae’r cynnig cyflog cenedlaethol eleni yn £1,925 ar hyn o bryd, sy’n gynnydd o tua 8-9 y cant i rai ar raddfeydd cyflog is.
- Mae’r Cyngor hefyd wedi gwella’r cyflog blynyddol i staff crefft mewn tai drwy symud o delerau ac amodau llyfr Coch i lyfr Gwyrdd, oedd yn gost ychwanegol o £400,000 eleni, a bydd hefyd yn manteisio ar y newid ehangach ym mis Hydref.
- Ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae’r Cyngor yn wynebu rhagolygon cyllideb a allai olygu bwlch a phwysau pellach o £20 miliwn.
- Pe bai’r Cyngor yn cytuno y tu allan i’r broses drafod arferol i newid pellach i dâl ac amodau lleol cyn i’r trafodaethau cenedlaethol ar dâl ddod i ben am eleni, byddai’r £23 miliwn hwn a’r £20 miliwn o bwysau, sy’n gyfanswm o £43 miliwn ar hyn o bryd yn cynyddu ymhellach, a bydd hefyd yn golygu bod y Cyngor yn trafod y tu allan i’r partneriaethau cymdeithasol y cytunwyd arnynt gyda’r tair undeb lafur.
- Yr unig ffordd y gall y Cyngor ymdrin â’r bwlch hwn yw drwy dorri gwasanaethau a cholli swyddi ar draws holl wasanaethau’r Cyngor, gan na all ariannu’r pwysau hyn mewn unrhyw ffordd arall.
- Trefnwyd cyfarfodydd yr wythnos hon i wrando ar bryderon Unite ac i drafod sut i gydbwyso colli swyddi â chynnydd mewn cyflogau. Fodd bynnag, mae’n amlwg nad yw Unite yn barod i drafod na gwrando gan eu bod wedi cyhoeddi streiciau cyn y trafodaethau hyn.
- Mae’r Cyngor yn gofyn i Unite drafod a gwrando drwy: ddod â thrafodaethau cyflog cenedlaethol i ben yn iawn, cynnal trafodaethau lleol drwy’r broses gydnabyddedig, ac atal y 5 wythnos arfaethedig o streiciau nes bydd y ddwy broses hon wedi eu cwblhau.
- Mae’r Cyngor yn barod i wrando ar y problemau anodd sy’n wynebu gweithwyr a’r Cyngor yn ei gyfanrwydd, fel mae undebau llafur eraill sy’n cyfarfod heb neu cyn unrhyw weithredu diwydiannol yn ei wneud. Pam nad yw Unite yn barod i wneud hyn?