Fel cyngor, rydym wedi ymateb i ymgynghoriad cyhoeddus a gynhelir gan Dasglu Adfer Manceinion (Manchester Recovery Task Force (MRTF).
Mae MRTF wedi datblygu tri opsiwn i newid y gwasanaethau trenau wedi’u hamserlennu i deithwyr a nwyddau mewn ymgais i wella perfformiad y rhwydwaith rheilffordd yn ardal Manceinion.
Bydd y newidiadau hyn i’r amserlen yn effeithio ar drigolion Wrecsam a gogledd Cymru sy’n defnyddio’r gwasanaethau trenau er mwyn teithio i neu drwy Fanceinion (yn cynnwys Maes Awyr Manceinion).
- Opsiwn A – byddai gwasanaethau o ogledd Cymru i Fanceinion yn cael eu dargyfeirio i wasanaethu gorsafoedd Manceinion Victoria a Stalybridge. Byddai hyn yn cael gwared ar y gwasanaethau uniongyrchol rhwng gogledd Cymru a Maes Awyr Manceinion, ac ni fyddai’r trenau’n stopio yng ngorsafoedd Manceinion Piccadilly ac Oxford Road.
- Opsiwn B – byddai’r opsiwn hwn yn cadw’r gwasanaethau presennol rhwng gogledd Cymru a Maes Awyr Manceinion / Manceinion Piccadilly.
- Opsiwn C – byddai’r gwasanaethau o ogledd Cymru i Fanceinion yn cael eu dargyfeirio i “Lein Canol Swydd Gaer”. Byddai hyn yn cael gwared ar y gwasanaethau uniongyrchol rhwng gogledd Cymru a Maes Awyr Manceinion, gyda’r gwasanaeth yn galw yn y gorsafoedd canlynol i’r dwyrain o Gaer yn unig: Northwich, Knutsford, Altrincham a Manceinion Piccadilly.
Yn rhinwedd ei swydd fel Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant, mae’r Cynghorydd David Bithell wedi ysgrifennu at MTRF gan ddweud, “Yr unig ganlyniad sy’n dderbyniol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yw cadw’r gwasanaethau uniongyrchol gan Drafnidiaeth Cymru i Faes Awyr Manceinion, fel a nodir yn Opsiwn B.
“Rwy’n ymwybodol fod Trafnidiaeth Cymru wedi cysylltu â thîm MRTF ac yn deall y bydd Opsiynau A ac C yn cynyddu amseroedd teithio i deithwyr sy’n teithio rhwng gogledd Cymru a Maes Awyr Manceinion, ac yn debygol o arwain at berfformiad gwaeth i gymudwyr gogledd Cymru.”
Gellir gweld yr ymgynghoriad, sy’n agored tan 10 Mawrth, yma.