Y llynedd, mae rhyddhau’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid a chanllawiau gweithredu newydd wedi rhoi’r cyfle i’r gwasanaethau ieuenctid ddod ynghyd ac edrych ar sut y gellir defnyddio’r ddogfen newydd i siapio dyfodol gwaith ein gwasanaeth ieuenctid.
Bu i Simon Stewart, Deon Cyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd ym Mhrifysgol Glyndŵr, agor y gynhadledd gan herio pawb i feddwl am sut gall y strategaeth eu cefnogi nhw a’u gwaith wrth ddelio gydag amrywiol anghenion pobl ifanc.
Cynhaliwyd gweithdai hefyd, ac roedd pynciau yn cynnwys sut gellir dal ac arfarnu siwrnai plant, sut gellir rhoi gwell cefnogaeth i lais plentyn, sut i weithio ar draws sectorau gwirfoddol a statudol ac a yw gwaith ieuenctid yn cyrraedd pawb?
Hefyd cynhaliwyd noson o ddathlu i gydnabod gwaith staff a phobl ifanc a chydnabod y rhai sydd wedi gwneud newid cadarnhaol yn eu bywydau. Nid oeddent yn cydnabod ymdrechion achrededig, yn hytrach cadernid, ymroddiad, cefnogaeth ac weithiau’r wen yn unig sy’n gwneud bob sesiwn yn werthfawr. Categorïau gwobrau’r bobl ifanc oedd:
- Gwobr Ysbrydoliaeth – i bobl ifanc sy’n dod a goleuni i’ch diwrnod
- Gwobr cadernid – i bobl ifanc sy’n dal i fynd er gwaethaf popeth!
- Gwobr Newid Personol Cadarnhaol – i bobl ifanc sydd wedi gwneud newidiadau personol cadarnhaol
- Gwobr Ymroddiad – cydnabod yr amser ac ymdrechion gwirfoddol pobl ifanc i wasanaethau
- Gwobr Dibynadwyedd – i’r bobl ifanc hynny y gall staff neu gyfoedion droi atynt pan fo angen.
Bu i Donna Dickenson Pennaeth Gwasanaeth Atal a Chefnogi gyflwyno tystysgrifau a phlatiau arian i 11 o bobl ifanc oedd yn cydnabod ac yn dangos gwerthfawrogiad y gwasanaeth ohonynt.
Bu i gydweithwyr a chyfoedion enwebu staff am bethau tebyg. Categorïau’r staff oedd:
- Gwobr dibynadwyedd – i staff a fyddai’n gwneud unrhyw beth i unrhyw un
- Gwobr ymroddiad – cydnabod gwasanaeth hir i bobl ifanc
- Gwobr cadernid – i staff sy’n dal i fynd er gwaethaf…….
- Gwobr Arweinydd Ysbrydoledig – i staff sy’n ysbrydoli eraill
- Gwobr Newydd-ddyfodiad – i staff newydd sydd wedi bwrw iddi’n syth.
Eto, bu i Donna gyflwyno platiau arian i chwech o staff mewn cydnabyddiaeth o’u cyfraniadau, ymdrechion ac ymroddiad i bobl ifanc a’r gwasanaeth.
Mae’r cynllunio ar gyfer cynhadledd 2020 eisoes yn digwydd!!