Does gennym ddim yn hir i aros ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam 2018, wedi’u cefnogi gan Wrecsam Egnïol.
Cynhelir y noson wobrwyo ar Safle Chwaraeon a Chymdeithasol Brymbo ddydd Gwener, 23 Chwefror.
Mae tocynnau ar gael i’r digwyddiad tan hanner nos ddydd Gwener, 9 Chwefror – felly gwnewch yn siŵr eich bod yn prynu’ch rhai chi rŵan!
Gellir archebu tocynnau yn sportsawards@wrexham.gov.uk neu trwy ffonio’r tîm Wrecsam Egnïol ar 01978 298997
Y rhai sydd wedi’u henwebu yw…
Rydym wedi cael ugeiniau o enwebiadau mewn wyth categori gwahanol, gyda’r bobl a enwebwyd yn cynrychioli rhai o’r grwpiau a chlybiau chwaraeon gorau sydd gan y fwrdeistref sirol i’w cynnig.
Y rhai a enwebwyd ym mhob categori yw:
Gwirfoddolwr y Flwyddyn (Noddwyd gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam)
- Kimberley Dutton; RCF i Ferched (Clwb Pêl-droed Wrecsam)
- Donna Hughes a’r Tîm; Clwb Rygbi Undeb Wrecsam
- Mark Andrew Jones; North Wales Crusaders
- Ben Purcell; Canolfan Tennis Wrecsam
- Steve Wilk; Clwb Nofio Dreigiau’r Waun
Hyfforddwr y Flwyddyn (Noddwyd gan Charisma Trophies)
- Ron Coles; Clwb Athletau Gemau Olympaidd Arbennig Wrecsam
- Richard Houghton; Clwb Gymnasteg Wrecsam
- Stephen Jones; North Wales Crusaders a Chynghrair Rygbi Cadair Olwyn Cymru
- Stephen Parker; Clwb Nofio Dreigiau’r Waun
- Sue Williams; Clwb Pêl-rwyd Rhosnesni
Pencampwr NERS (Noddwyd gan y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS))
- Jackie Kearsley
- Donna Price
- Gary Price
- Jo Warne
- Dave Whiteland
Sefydliad y Flwyddyn (Noddwyd gan Canolfan Tennis Wrecsam)
- Clwb Pêl-droed Brickfield Rangers
- Clwb Pêl-rwyd Rhosnesni
- Clwb Gymnasteg Wrecsam
- Clwb Pêl-droed Cynhwysiant Wrecsam
- Clwb Nofio Wrecsam
Personoliaeth Chwaraeon Anabledd y Flwyddyn (Noddwyd gan Drenau Arriva Cymru)
- Stephen Davies; Aml-chwaraeon Olympaidd Arbennig Wrecsam
- Damon Hughes; Aml-chwaraeon Olympaidd Arbennig Wrecsam
- Harry Jones; North Wales Crusaders a Chynghrair Rygbi Cadair Olwyn Cymru
- Greg Vickers; Clwb Athletau Olympaidd Arbennig Wrecsam
- Megan Weetman; Clwb Athletau Olympaidd Arbennig Wrecsam
Personoliaeth Chwaraeon Ieuenctid y Flwyddyn (Noddwyd gan y Cyng I David Bithell MBE)
- Beth Christy; Matrix Taekwando
- Jacob Edwards; Clwb Gymnasteg Olympus
- Leah Kirby; Clwb Pêl-rwyd Wrecsam/Ysgol y Grango
- Elliot Odunaiya; Clwb Athletau Amatur Wrecsam.
- Steph Phennah; Clwb Ffensio Wrecsam
Personoliaeth Chwaraeon (Noddwyd gan Freedom Leisure)
- Lowri Davies; Canŵ Cymru a Chlwb Canŵio Llangollen
- Catherine Parsonage; Clwb Nofio Dreigiau’r Waun
- Matthew Willis; Clwb Athletau Amatur Wrecsam
Gwasanaeth i Chwaraeon
- David Jones; Clwb Bocsio Maelor
- Phil Jones; LEX X1 a Chynghrair Ieuenctid Wrecsam
- Bob Rogers; Clwb Nofio Wrecsam
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT