Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cynllun grant newydd ar gael i fusnesau Wrecsam – gwnewch gais nawr!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Cynllun grant newydd ar gael i fusnesau Wrecsam – gwnewch gais nawr!
Busnes ac addysg

Cynllun grant newydd ar gael i fusnesau Wrecsam – gwnewch gais nawr!

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 23, 2025 11:15 am
Rhannu
Darllen 2 funud
funding
RHANNU

Mae busnesau Wrecsam yn cael eu hannog i wneud cais am grant newydd a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae Cyngor Wrecsam wedi agor ceisiadau ar gyfer cynllun Grant Busnes Wrecsam 2025, sy’n ceisio rhoi hwb pellach i’r economi leol.

Mae’r cynllun yn agored i fusnesau bach a chanolig cymwys ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam sydd ar fin cychwyn neu wedi cychwyn eisoes.

Mae’r grantiau’n amrywio o £2,000 i £10,000, a gellir eu defnyddio i ad-dalu busnesau am hyd at 50% o gostau gwariant cyfalaf neu refeniw cymwys.

Gall hyn gynnwys pethau fel peiriannau ac offer newydd, cerbydau ffatri fel cerbydau fforch godi, caledwedd TG a thelathrebu, a deunyddiau marchnata.

Ewch i wefan Cyngor Wrecsam i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais am grant.

Rhagor o wybodaeth

Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn hanner dydd ddydd Mawrth, 1 Gorffennaf.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol dros Fusnes, yr Economi a Thwristiaeth: “Mae hwn yn gyfle gwych i fusnesau bach a chanolig yn Wrecsam, yn ogystal â mentrau newydd nad ydyn nhw wedi dechrau masnachu eto.

“Os yw’ch busnes wedi’i leoli yn y fwrdeistref sirol, yna edrychwch ar y meini prawf cymhwysedd i weld a ydych chi’n gymwys – ond mae’n bwysig gweithredu nawr, neu gallech chi golli cyfle.

“Cofiwch fod yn rhaid i’ch busnes gael yr arian i dalu am y gwaith i ddechrau, gan fod y grantiau ar gyfer ad-dalu hyd at 50% o’r gost yn ddiweddarach.”

Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus fodloni o leiaf ddau o’r prif amcanion penodol, a rhaid iddyn nhw gwblhau eu prosiect a hawlio eu grant erbyn 31 Ionawr, 2026.

Bydd pob cais yn cael ei asesu o ran cymhwysedd, gwerth am arian a’r allbynnau sydd wedi’u cyflawni.

Ewch i wefan y Cyngor i gael rhagor o wybodaeth.

Rhannu
Erthygl flaenorol aging couple Heneiddio’n Dda – cewch wybod mwy ar 26 Mehefin
Erthygl nesaf food supply chain Cwmni Wrecsam yn gyrru twf yng nghadwyn cyflenwi bwyd Cymru

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

'Dathliad enfawr a gwyllt!' - Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
‘Dathliad enfawr a gwyllt!’ – Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau
Wrecsam v Preston: dewiswch y parcio a theithio
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o’n blaenau
Y cyngor
Hydref 14, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Bwrdd Gweithredol yn rhoi sêl bendith i ymgynghoriadau
Busnes ac addysg

Bwrdd Gweithredol yn rhoi sêl bendith i ymgynghoriadau

Hydref 13, 2026
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Busnes ac addysg

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…

Hydref 9, 2026
All Saints School Pupils
Busnes ac addysgPobl a lle

Aur i Gresffordd – Ysgol yr Holl Saint yn creu hanes yn Wrecsam!

Hydref 7, 2026
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg

Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam

Hydref 6, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English