Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cynllun grant newydd ar gyfer siopau canol y ddinas ac eiddo masnachol yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Cynllun grant newydd ar gyfer siopau canol y ddinas ac eiddo masnachol yn Wrecsam
Busnes ac addysgNewyddion staffPobl a lle

Cynllun grant newydd ar gyfer siopau canol y ddinas ac eiddo masnachol yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 8, 2024 12:08 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Cynllun grant newydd ar gyfer siopau canol y ddinas ac eiddo masnachol yn Wrecsam
RHANNU

Mae gwahoddiad i berchnogion eiddo manwerthu ac eiddo masnachol wneud cais am grant newydd sydd wedi’i fwriadu i helpu i adfywio canol dinas Wrecsam.

Bydd Cyngor Wrecsam yn defnyddio £220,000 o gyllid Trawsnewid Trefi i gynnig grantiau o hyd at £50,000 i wella tu blaen adeiladau a dod â defnydd yn ôl i unedau masnachol gwag.

Mae Trawsnewid Trefi yn fenter gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi ei llunio i helpu i adfywio canol trefi, gan sicrhau eu bod yn parhau i chwarae rôl allweddol mewn economïau a chymunedau lleol.

Pwy all wneud cais?

Mae grantiau ar gael ar gyfer perchnogion eiddo manwerthu ac eiddo masnachol sydd â safleoedd yng nghanol y ddinas.

Croesewir ceisiadau hefyd gan lesddeiliaid sydd â saith mlynedd neu fwy ar ôl ar eu tenantiaeth, ac sydd wedi cael caniatâd ysgrifenedig gan eu landlord i wneud y gwelliannau arfaethedig.

Ar gyfer beth mae modd defnyddio’r cyllid?

Mae modd defnyddio’r arian i gynorthwyo i ariannu gwaith allanol i du blaen adeiladau, gan gynnwys:

  • Blaen siopau
  • Gwella ffenestri arddangos
  • Gwella arwyddion
  • Ffenestri a drysau
  • Toeau a simneiau
  • Rendro a gwaith strwythurol

Gall gwaith mewnol – a gwelliannau i effeithlonrwydd ynni (e.e. inswleiddio’n well) – fod yn gymwys hefyd, ochr yn ochr â phecyn cynhwysfawr o welliannau allanol.

Rhaid i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn 28 Chwefror 2025.

Mae mwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i wneud cais, ar wefan Cyngor Wrecsam. Grant Datblygu Eiddo Trawsnewid Trefi | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi:  “Mae hwn yn gyfnod eithriadol o gyffrous i Wrecsam, a bydd y grantiau hyn o gymorth i adfywio a gwella eiddo yng nghanol y ddinas.

“Byddwn yn annog perchnogion a lesddeiliaid cymwys i wneud cais am y cyllid hwn, a helpu i ddod â chwa o fywyd newydd i’w hadeiladau.

“Wrecsam yw dinas ddiweddaraf Cymru, ac mae’n bwysig bod canol ein dinas yn fywiog a chyffrous.”

Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Tai, Llywodraeth Leol a Chynllunio, Julie James: “Drwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi, rydym wedi darparu gwerth miliynau o bunnoedd o gyllid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i adfywio canol y ddinas, cefnogi bywiogrwydd a chreu cyfleoedd cyflogaeth.

“Bydd y fenter hon yn Wrecsam yn arwain at well cynnig yng nghanol y dref ac yn rhoi defnydd newydd eto i adeiladau segur sydd yng nghanol y gymuned – dwy elfen sy’n allweddol i’n rhaglenni adfywio.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld sut y bydd y buddsoddiad diweddaraf yma o fudd i’r gymuned ac yn helpu i sbarduno’r economi leol.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Estyn Dirwy o £10,000 i Rock the Park (Wrecsam) Cyf
Erthygl nesaf Cycling Digwyddiad teithio cynaliadwy i fusnesau lleol ar 17 Gorffennaf – rhowch nodyn yn y dyddiadur!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lle Y cyngor
Awst 27, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
ArallPobl a lle

Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi

Awst 26, 2026
Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Pobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English