Bydd cyfle i’r cyhoedd gael mynegi eu barn am gynllun rheoli drafft ar gyfer Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Lansiwyd ymgynghoriad ar gyfer Cynllun Rheoli drafft Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy 2020-2025.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Mae Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) yn cynnwys rhai o’r ardaloedd cefn gwlad mwyaf prydferth, rhyfeddol a dramatig yng Nghymru ac mae ganddyn nhw ganllawiau llym er mwyn diogelu’r dirwedd.
Mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn ymestyn dros tua 390 cilometr sgwâr, ac yn ymestyn o’r bryniau arfordirol ger Prestatyn i’r gogledd ac mor ddeheuol â Thraphont Ddŵr Pontcysyllte a mynyddoedd y Berwyn.
Mae’n cynnwys tir yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam, mae’n cael ei reoli gan y tri chyngor sir a Chyngor Sir Ddinbych yw’r awdurdod arweiniol ar gyfer cyd-bwyllgor yr AHNE.
Meddai’r Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau Cyngor Sir Ddinbych a Chadeirydd Cyd-Bwyllgor AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy: “Tua diwedd 2020, fe wnaeth Cyngor Sir Ddinbych gynnal ymgynghoriad ar ran cyd-bwyllgor yr AHNE a chafodd ei ddefnyddio er mwyn helpu i ddatblygu’r cynllun rheoli drafft hwn.
“Gan fod y cynllun rheoli drafft nawr wedi ei ysgrifennu, mae pwyllgor yr AHNE yn awyddus i ddeall a yw’r cynnwys a’r amcanion yn adlewyrchu’r hyn a ddywedodd bobl wrthym sy’n bwysig.
“Gwyddom fod llawer o breswylwyr ac ymwelwyr yn mwynhau ymweld â’r ardal bob blwyddyn ac felly mae’n bwysig fod pobl yn cael mynegi eu barn am sut y rheolir yr AHNE yn y dyfodol drwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn.
Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng 9fed Mawrth a 20 Ebrill, 2022 ac os hoffech chi gyfrannu a dweud eich dweud ewch i https://countyconversation.denbighshire.gov.uk/projectcy/661
Mae copïau papur o’r cynllun rheoli ar gael i’w gweld yn:
Canolfan Ymwelwyr Parc Gwledig Loggerheads, Ffordd Rhuthun, CH7 5LH
Llyfrgell Llangollen, Heol y Castell, Llangollen, LL20 8NU
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH