Mae Cyngor Wrecsam wedi ennill gwobr genedlaethol am ei gynlluniau i ddatblygu’r defnydd o dechnoleg i helpu i reoli a gwella canol y ddinas.
Llwyddodd y Cyngor i guro cystadleuaeth o bob rhan o Gymru i ennill gwobr Excellence in Plan Making gan Royal Town Planning Institute (RTPI).
Mae’r wobr yn cydnabod ymarfer ardderchog wth lunio cynlluniau a fydd yn helpu i siapio dyfodol trefi a dinasoedd – yn enwedig cynlluniau sydd yn unigryw ac arloesol.
Fe enillodd y Cyngor y wobr yn sgil ei Gynllun Lleoedd Digidol, a gafodd ei lunio i gefnogi siwrnai Wrecsam i fod yn ‘ddinas glyfar’ – lle mae technoleg yn cael ei ddefnyddio i helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr a gwariant, gwella’r broses o reoli traffig, arbed ynni a chreu strydoedd sydd yn fwy glân a diogel.
Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cynllunio, Cyngor Wrecsam: “Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth ardderchog i’r Cyngor ac mae’n tynnu sylw at ein harbenigedd o ran llunio cynlluniau arloesol sydd wedi’u cynllunio’n dda ar gyfer canol y ddinas.
“Fe hoffwn i ddiolch i staff am eu gwaith caled a dwi’n edrych ‘mlaen at weld y Cynllun Lleoedd Digidol yn siapio dyfodol Wrecsam.”
Cafodd y Cynllun Lleoedd Digidol ei fabwysiadu gan Bwyllgor Craffu Cyflogaeth, Busnes a Buddsoddiad y Cyngor yn fuan yn 2023, gan roi cychwyn ar nifer o fentrau yn cynnwys lansio ap ymwelwyr i ganol y ddinas o’r enw VZTA (gellir ei lawrlwytho o’r App Store neu Google Play).
Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi: “Ers i’r cynllun gael ei fabwysiadu, mae Wrecsam wedi gwneud camau breision gyda’i ddyhead o fod yn ddinas cwbl glyfar.
“Mae Wrecsam yn arwain y ffordd yng Nghymru fel dinas glyfar, ac yn ddiweddar cafodd ei dewis i gynnal y gynhadledd genedlaethol gyntaf ar gyfer trefi clyfar, a daeth dros 100 o gwmnïau ac awdurdodau lleol o bob rhan o Gymru i’r digwyddiad yn Nhŷ Pawb.
“Mae ein gwaith hefyd wedi cael ei gydnabod a chael sylw gan asiantaethau’r wasg yn rhyngwladol.
“Mae’r Cynllun Lleoedd Digidol yn arloesol, yn uchelgeisiol ac yn ymarferol ac rydw i wrth fy modd fod ei ansawdd wedi cael ei gydnabod gan RTPI.
“Diolch yn fawr i bob Swyddog sydd wedi bod yn rhan wrth gyflwyno’r cynllun hwn.”