Bydd y Bwrdd Gweithredol yn trafod cynlluniau i gynyddu nifer y lleoedd mewn ysgol gynradd bentref.
Yn yr hydref, bu i ni gynnal ymgynghoriad yn holi a ddylem gynyddu nifer y lleoedd yn Ysgol Bro Alun, sy’n ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yng Ngwersyllt.
Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebion a gawsom yn ystod yr ymgynghoriad yn gefnogol iawn i’r cynnig ac, felly, rydyn ni bellach yn edrych ar y camau nesaf.
Ynghyd â’r ymatebion cadarnhaol a gawsom yn ystod yr ymgynghoriad, rydyn ni hefyd yn gwybod bod disgwyl i alw am leoedd mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn Wrecsam dyfu yn y blynyddoedd nesaf.
Ddydd Mawrth, 8 Ionawr, bydd ein Bwrdd Gweithredol yn ystyried cynigion i gynyddu nifer y lleoedd yn barhaol yn Ysgol Bro Alun.
Byddai’r cynlluniau’n edrych ar greu lle i 105 o ddisgyblion ychwanegol – 15 i bob grŵp blwyddyn, a fyddai’n cynyddu uchafswm disgyblion yr ysgol i 315 (a 45 o leoedd meithrin).
Byddai’r flwyddyn gyntaf o gynnydd yn cychwyn ym mis Medi 2019 yn y dosbarthiadau meithrin a derbyn gyda 15 o leoedd ychwanegol i ddisgyblion ym mhob un. Byddai’r cynnydd wedi’i gyfyngu i’r grwpiau hynny’n unig.
Wedyn, byddai’r nifer derbyn yn cynyddu 15 lle bob blwyddyn tan i’r ysgol gyrraedd ei huchafswm newydd o 315.
Bydd aelodau’r Bwrdd Gweithredol yn trafod y cynlluniau ar 8 Ionawr – gallwch wylio’r gwe-ddarllediad yma.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR