Mae galwadau am wasanaeth trên gwell rhwng Wrecsam a Llundain Euston wedi cael hwb y mis hwn.
Mae’r Adran Drafnidiaeth wedi cadarnhau ei bod yn parhau i ‘gefnogi mewn egwyddor’ gais gan Wrexham, Shropshire & Midlands Railway (WSMR) i gyflwyno gwasanaeth newydd rhwng Wrecsam a phrifddinas y DU.
Byddai’r gwasanaeth yn un ‘mynediad agored’, sy’n golygu y byddai’n gweithredu ar sail fasnachol heb gymhorthdal llywodraeth, a byddai’n cynnwys arosfannau yng Ngobowen, Amwythig, Telford, Wolverhampton, Darlaston, Walsall, Parcffordd Coleshill, Nuneaton a Milton Keynes.
Yn ei hasesiad diweddaraf o’r cynigion, dywed yr Adran Drafnidiaeth ei bod yn cydnabod y manteision y gallai’r gwasanaeth newydd eu darparu i gymunedau yng ngogledd Cymru, Gorllewin Canolbarth Lloegr a Llundain.
Er, mae hefyd yn awgrymu bod angen gwneud mwy o waith i bwyso’r heriau gweithredol, gan gynnwys sut y byddai’r gwasanaeth newydd yn gweithio ochr yn ochr â’r gwasanaethau trên presennol i Euston.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd Cyngor Wrecsam a’r Aelod Arweiniol sy’n gyfrifol am drafnidiaeth strategol: “Mae ’na ffordd bell i fynd o hyd, ond mae pethau’n bendant yn symud i’r cyfeiriad cywir.
“Gwnaeth Sam Rowlands AS a minnau gyfarfod â WSMR yn ddiweddar, ac rydyn ni’n falch iawn o sut mae’r cais yn datblygu.
“Byddai cyflwyno gwasanaeth masnachol – yn rhedeg hyd at bum trên y dydd o Wrecsam i Lundain – yn dod â manteision enfawr i ogledd Cymru.”
Dywedodd Sam Rowlands AS (Rhanbarth Gogledd Cymru): “Rwy’n falch iawn o gefnogi cais Wrexham, Shropshire & Midlands Railway i gyflwyno gwasanaethau rheilffordd uniongyrchol rhwng Wrecsam a Llundain, ac mae’n wych gweld bod yr Adran Drafnidiaeth yn cefnogi’r cais mewn egwyddor.
“Wrecsam yw cytref fwyaf gogledd Cymru, a byddai gwella gwasanaethau rheilffordd i Swydd Amwythig, Canolbarth Lloegr a Llundain yn hwb i’n heconomi leol.”