Mae Cynllun y Cyngor wedi ei ddiwygio a’i gytuno gan y Cyngor Llawn, ac ar gael yn awr ar y wefan.
Yn y cynllun hwn, mae ein hamcanion lles a chynlluniau gwella ar gyfer y Fwrdeistref Sirol, a phawb sy’n byw yma.
Fel cyngor rydym yn darparu nifer o wasanaethau i chi gan gynnwys eich casgliadau bin ac ailgylchu, ysgolion, ffyrdd, gofal cymdeithasol, cynllunio a pharciau gwledig. Ac mae angen i ni sicrhau ein bod yn darparu’r gwasanaethau hyn yn y ffyrdd gorau a mwyaf cynaliadwy.
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
Gyda hyn mewn cof, mae dau beth mawr wedi newid ers i ni gyhoeddi cynllun y cyngor diwethaf:
• Rydym wedi edrych eto ar beth sydd angen i ni ei gyflawni ac wedi sicrhau ein bod yn realistig o dan ddylanwad pandemig byd-eang.
• Rydym wedi canolbwyntio ar chwe maes fel blaenoriaeth:
1. Datblygu’r economi
2. Sicrhau bod pawb yn ddiogel
3. Sicrhau cyngor modern a chryf
4. Gwella’r amgylchedd
5. Gwella addysg uwchradd
6. Hyrwyddo iechyd a lles da
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Aelod Arweiniol Trefniadaeth – Cyllid, Perfformiad, Iechyd a Diogelwch a Llywodraethu: “Fel Cyngor, ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol yw bod pawb sy’n byw yn Wrecsam yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial, ffynnu a chyflawni safon uchel o les. Byddwn yn arweinydd cymunedol cryf a chynhwysol i helpu i wneud hyn ddigwydd. Mae Cynllun y Cyngor yn uchelgeisiol ac yn dangos i chi sut fyddwn yn cyflawni hyn”.
Dywedodd Ian Bancroft, Prif Weithredwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Mae’r pandemig coronafeirws byd-eang wedi effeithio ar bob agwedd ar ein bywydau ac roedd yn bwysig adolygu Cynllun y Cyngor. Mae gennym weledigaeth, cynllun a blaenoriaethau clir o ran ble mae angen i ni ganolbwyntio fel Cyngor i sicrhau bod pobl, lle ac economi Wrecsam yn gallu bod yn gryf wrth ymateb ac adfer o’r argyfwng digynsail hwn.”
Mae Cynllun y Cyngor ar gael i chi ei ddarllen ar ein gwefan.
CANFOD Y FFEITHIAU