Wrth i filiau Treth y Cyngor gyrraedd ein cartrefi yn dilyn heriau ariannol anodd, rydym bellach yn paratoi i gynllunio ar gyfer cyllideb 2020/2022.
Mae adroddiad i’r Bwrdd Gweithredol nesaf yn amlygu maint yr her ariannol gyda diffyg
disgwyliedig o ryw £9.8 miliwn dros y ddwy flynedd o 2020/21 i 2021/22, ac mae’n gofyn i aelodau gytuno ar ffordd ymlaen i fantoli’r gyllideb ar gyfer cyfnod 2020/21.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB
Gelwir y broses hon yn broses y gyllideb ac mae’n ffordd o sicrhau bod ein holl gynghorwyr yn cymryd rhan ac yn cael cyfle i fynegi eu barn.
Mae’n dechrau’n gynnar iawn – y mis yma mewn gwirionedd – a bydd yn para trwy gydol y flwyddyn dros y broses ymgynghori yn yr hydref a gosod Treth Y Cyngor ym mis Chwefror.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Mae’n broses yr awn trwyddi bob blwyddyn a bob blwyddyn mae’n dod yn fwyfwy anodd cydbwyso’r gyllideb, gosod Treth y Cyngor a pheidio â gostwng gwasanaethau i lefel annerbyniol.
“Ni fydd pethau’n newid y flwyddyn nesaf ac rwy’n gofyn i’r Bwrdd Gweithredol gymeradwyo dyddiadau ar gyfer gweithdai ac ymgynghoriadau amrywiol gyda rhanddeiliaid gan gynnwys y cyhoedd ar ddiwedd y flwyddyn.
“Unwaith eto, mae gennym dasg enfawr o’n blaenau. Gofynnir i ni wneud gwerth dros £9m o doriadau i’n cyllideb sy’n £63 miliwn yn ychwanegol at y toriadau sydd eisoes wedi digwydd ers i’r mesurau cyni ddechrau. Rwy’n hyderus y byddwn unwaith eto yn gosod cyllideb gytbwys yn unol â’r toriadau a ddisgwylir gan y Llywodraeth.”
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB