Mae’r Rhuban Gwyn yn symbol a gydnabyddir yn fyd-eang i gynrychioli rhoi terfyn ar drais gan ddynion yn erbyn merched a genethod. Ers sefydlu mudiad y Rhuban Gwyn 35 mlynedd yn ôl yng Nghanada, mae’r Rhuban Gwyn wedi datblygu i fod yn symbol pwysig i frwydro yn erbyn trais sy’n seiliedig ar ryw.
Ddydd Llun 25 Tachwedd 2024 rhwng 9:30am – 1:30pm cynhelir digwyddiad Rhuban Gwyn yn Tŷ Pawb.
Bydd dros 20 o sefydliadau lleol yn bresennol i gynnig cyngor, cymorth, cefnogaeth a chyfeirio at wybodaeth bellach ar gyfer pawb sy’n mynychu; ynghyd â chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd adnabod arwyddion a symptomau cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Dywedodd y Cynghorydd Beverly Parry Jones, Cefnogwr Materion Trais yn seiliedig ar Ryw, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghyngor Wrecsam “Ceir presenoldeb da gan sefydliadau lleol sy’n cefnogi merched a’r cyhoedd yn y digwyddiadau Rhuban Gwyn a gynhelir yn Tŷ Pawb. “Mae gan y digwyddiad rôl bwysig i godi ymwybyddiaeth o symptomau o gam-drin domestig a thrais rhywiol, ynghyd â chael arbenigwyr wrth law i gynnig cymorth a chyngor.